Neidio i'r prif gynnwy

Teithiau trugarog Kirstin yn atgyweirio mwy na gwenau plant a anwyd â chyflwr sy'n anffurfio

24.06.2024

Mae nyrs dwymgalon o Ysbyty Glan Clwyd yn helpu i drawsnewid bywydau ac atgyweirio gwenau plant difreintiedig a anwyd â gwefus a thaflod hollt.

Er bod ei gyrfa yn y GIG yn bwysig iawn iddi, mae’r nyrs arbenigol diabetes Kirstin Clark wedi llwyddo i ddod o hyd i amser i wirfoddoli gyda'r elusen Love Without Boundaries ers 2007. Mae'r elusen yn anfon timau rhyngwladol i Tsieina, Cambodia a Guatemala i gynnal llawdriniaethau sy'n newid bywydau plant difreintiedig.

A hithau bellach yn rheolwr meddygol Tsieina a Guatemala y sefydliad, hon yw ei thrydedd daith i gefnogi’r gwaith, a hynny yn bennaf o’i phoced ei hun. Er mai trin plant yw blaenoriaeth yr elusen gan amlaf, dywedodd Kirstin fod un driniaeth yn aros yn y cof yn fwy na’r lleill ar ei thaith ddiweddaraf.

“Mae ein gwaith fel arfer ar gyfer plant ond mae’n debyg mai’r trawsnewidiad mwyaf rhyfeddol yw un Rene, dyn 52 oed â gwefus hollt” meddai. “Roedd Rene yn achos arbennig gan y gwrthodwyd llawdriniaeth iddo dair gwaith yn ystod ei blentyndod.”

Mae trawsnewidiad Rene i’w weld yn y prif lun ond mae’r oriel lluniau cyn ac ar ôl y driniaeth, yn y ddolen ar waelod y stori hon, yn dystiolaeth amlwg o’r gwaith anhygoel y mae Kirstin a’i chydweithwyr yn ei wneud.

Claf arennol yn mynd ar ei gwyliau cyntaf mewn 15 mlynedd diolch i beiriant dialysis symudol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Mae gwefus a thaflod hollt yn achosi nifer o heriau difrifol megis anhawster wrth fwydo, tyfiant a datblygiad cyffredinol gwael, problemau deintyddol, heintiau cyson yn y glust, colli clyw a phroblemau lleferydd.

Mae mwy o alw am wasanaethau’r elusen yn ardaloedd gwledig Guatemala. Mewn gwirionedd, mae Adran Iechyd Llywodraeth Guatemala yn amcangyfrif bod 15% o'r holl anomaleddau cynhenid ​​a gofnodir yn y wlad yn cynnwys gwefus a thaflod hollt.

Mae ardaloedd gwledig Guatemala yn hynod o dlawd ac mae diffyg maeth yn gyffredin yn y rhanbarthau hyn, sy’n achosi caledi ychwanegol i blant sy'n cael eu geni â hollt yn y daflod ac mae hyn yn aml yn achosi anhawster wrth fwydo ar y fron neu wrth geisio yfed o botel.

Mae diffyg maeth a heintiau mynych yn debygol o rwystro eu twf a'u datblygiad.

Mae dadansoddiad diweddar yn y Reproductive Health Journal yn dangos y bydd 10% o blant sy'n cael eu geni â hollt yn y daflod yn Guatemala yn marw cyn iddynt gyrraedd chwe wythnos oed. Llawdriniaeth pan fyddant yn ifanc iawn yw'r ffordd orau o helpu i sicrhau y gallant oroesi a ffynnu.

Gall plant sydd â gwefus a thaflod hollt heb ei drin ddioddef oherwydd ynysu cymdeithasol hefyd gan fod stigma negyddol o ran y cyflwr mewn rhai diwylliannau o amgylch y byd. Mae’r elusen “eisiau estyn llaw i’r plant hyn er mwyn iddyn nhw allu gwenu a siarad yn hyderus fel aelodau gwerthfawr o’u cymdeithas”.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)