Neidio i'r prif gynnwy

Gyrrwch yn gall y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd a diogelu ein cleifion mwyaf bregus

25.06.2024

Gofynnir i ymwelwyr a staff sy’n teithio i Ysbyty Glan Clwyd gydweithredu â’r llif traffig newydd am hyd at 32 wythnos tra bydd gwaith ffordd yn mynd rhagddo er mwyn diogelu derbyniadau brys.

Mae gwelliannau mynediad a llwybrau troed ar Ffordd Rhuddlan, ger y safle, yn rhan o gynlluniau i adeiladu 100 o gartrefi preswyl newydd ac mae’r gwaith i fod i ddechrau ddydd Llun, Gorffennaf 1.

Bydd rhan o’r briffordd, sy’n arwain at yr ysbyty o’r A55 a Bodelwyddan, ar gau rhwng 09.00 a 15.30 yn ystod yr wythnos ac ar ambell benwythnos, gyda goleuadau traffig dros dro ar waith.

Mae Jalibani Ndebele, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ysbyty Glan Clwyd yn gofyn i staff ac ymwelwyr sy’n gyrru i’r safle deithio o’r cyfeiriad arall, ar yr A525 a Ffordd y Sarn os yn bosibl.

Mae hyn er mwyn rhoi blaenoriaeth mynediad i’r ambiwlansys brys drwy’r gwaith ffordd o’r A55 ac i Adran Achosion Brys yr ysbyty.

Teithiau trugarog Kirstin yn atgyweirio mwy na gwenau plant a anwyd â chyflwr sy'n anffurfio - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd Jalibani Ndebele: “Rwy’n erfyn ar y rhai sy’n gyrru i’n hysbyty fod yn ystyriol yn ystod yr aflonyddwch hwn.

“Os gall ymwelwyr a staff sy’n teithio i Ysbyty Glan Clwyd ddefnyddio ffordd osgoi’r A525 rhwng Rhuddlan-Llanelwy, ar hyd Ffordd y Sarn, byddai’n help mawr er mwyn cadw’r mynediad hwnnw’n glir i’n cydweithwyr yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).

“Rwy’n deall y bydd hyn yn achosi anghyfleustra i rai, ond mae angen i ni weithio gyda’n gilydd a gyda’r cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cadw’r mynediad yn agored ar gyfer y cleifion hynny sy’n wirioneddol sâl.”

Mae Pure Residential and Commercial, sy’n trefnu’r gwaith hwn wedi bod mewn trafodaethau ymgynghori agos gyda’r Bwrdd Iechyd a byddant yn gweithredu arwyddion traffig i roi blaenoriaeth i gerbydau brys sy'n agosáu at yr ysbyty.

Dywedodd Dermot O’Leary, Rheolwr Ardal Interim WAST ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych: “Rydym yn croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan ein cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i wneud yn siŵr bod ein hambiwlansys brys yn cael blaenoriaeth mynediad y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd.

“Mae angen i’n cleifion gyrraedd yr adran achosion brys mewn modd amserol i dderbyn yr ymyriadau brys sydd eu hangen arnynt, a allai achub bywydau.

"Mae'n atgof gwerthfawr iawn" - y Gwasanaeth Ambiwlans a thîm Hosbis yn y Cartref yn helpu i wireddu dymuniad claf i weld sioe Peter Kay gyda'i deulu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Hoffem ddiolch i’r cyhoedd ymlaen llaw am eu cydweithrediad, gan y gwyddom y gallai’r trefniadau hyn achosi anghyfleustra i rai pobl.”

Mae staff Ysbyty Glan Clwyd eisoes wedi cael cais i ystyried rhannu ceir gyda chydweithwyr i leihau pwysau traffig ar y safle, ac ystyried a allent ddefnyddio’r bws neu feicio i’r gwaith, yn dibynnu ar ble maent yn byw.

Dywedodd Jalibani Ndebele y gallai’r cyhoedd o bosibl helpu i leihau’r anhrefn parcio.

Ychwanegodd: “Os oes gennych apwyntiad yn Ysbyty Glan Clwyd, oes modd i rywun eich danfon a dod i’ch casglu’n ddiweddarach? Os yw hi’n bosib, allech chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

“Mae gennym eisoes broblemau enfawr ar y safle o ganlyniad i barcio anystyriol, sydd wedi ein gorfodi i edrych ar fesurau parcio llymach. O dro i dro mae ambiwlansys yn cael anhawster mynd heibio Ysbyty Glan Clwyd i gyrraedd yr Adran Achosion Brys, ac mae gan y gwaith hwn botensial i'w hatal rhag mynd ar dir yr ysbyty mewn modd amserol hyd yn oed.

“Bydd unrhyw gymorth i leihau’r pwysau traffig o amgylch yr ysbyty er budd y cleifion yn y pen draw.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)