Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar Hwb Orthopedig Newydd Ysbyty Llandudno

21 Awst 2024

Mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar Hwb Orthopedig Dewisol newydd yn Ysbyty Llandudno.

Tua diwedd 2023, cymeradwyodd Lywodraeth Cymru £29.4m o gyllid i adnewyddu Ward Aberconwy i greu gofod ar gyfer 19 o welyau ychwanegol, dwy theatr newydd ac uned adferiad/gofal ôl-anaesthetig gwell gydag wyth gwely.

Bydd yr hwb yn arbenigo mewn gofal cyfaint uchel, nad yw’n gymhleth a bydd yn cynyddu gweithgaredd llawfeddygol drwy ddarparu llawdriniaethau orthopedig i ffwrdd o’r tri phrif ysbyty. Bydd yn lleihau’r effeithiau y gall gofal heb ei drefnu ei gael ar driniaeth ddewisol a lleihau’r siawns y bydd llawdriniaethau’n cael eu gohirio.

Dywedodd Mr Satya Pydah, Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Orthopedeg yn Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn gyffrous bod gwaith wedi dechrau yn Ysbyty Llandudno. Rydym yn disgwyl, unwaith y bydd hyn ar waith, y bydd gwahaniaeth sylweddol o ran y rhestrau aros ar gyfer ein cleifion sy’n aros am glun a phen-glin newydd.

“Yn ogystal â’r manteision i’n cleifion, bydd cael hwb fel hwn yng Ngogledd Cymru yn ein helpu i ddenu gweithwyr gofal iechyd o ansawdd uchel. Bydd hefyd yn helpu gydag ymchwil a bydd cael cyfleuster newydd yn helpu gyda hyfforddi ein llawfeddygon iau sy’n dod trwy’r ysbyty.”

Ychwanegodd Mr Madhusudhan Raghavendra, Arweinydd Clinigol ac Arweinydd y Rhwydwaith ar gyfer Orthopedeg yn Ardal y Canol y Bwrdd Iechyd a Llawfeddyg Ymgynghorol Orthopedig: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith yn mynd rhagddo ar yr hwb newydd – nid yn unig y bydd  dod â sgiliau ac arbenigedd y staff ynghyd mewn un lle yn lleihau rhestrau aros ar gyfer cleifion orthopedig, bydd hefyd yn rhyddhau lle yn ein prif ysbytai ac yn lleihau’r risg y bydd llawdriniaethau orthopedig yn cael eu gohirio oherwydd pwysau ar y safleoedd.”

Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan Wynne Construction, a ddechreuodd ar y gwaith adeiladu ym mis Mawrth 2024, ac maent yn defnyddio’r prosiect fel cyfle i ddarparu prentisiaethau i bobl ifanc yn yr ardal.

Dywedodd Rheolwr y Safle, Dafydd Williams: “Wrth i’r gwaith ddatblygu, byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned leol, megis ysgolion a cholegau lleol, gan ddod â phrentisiaid i mewn i roi profiad o safle byw iddynt.

“Bydd hwn yn brofiad gwych i’r unigolion hynny gan y byddant yn ennill profiad ymarferol o wahanol agweddau ar waith adeiladu.”

Disgwylir y bydd yr hwb yn llwyr weithredol erbyn  haf 2025.

Unwaith y bydd yr hwb yn gweithredu, gallai cleifion sydd angen triniaeth orthopedig ac sydd angen arhosiad byr yn yr ysbyty yn unig gael cynnig eu llawdriniaeth yn Llandudno. Bydd cleifion yn parhau i allu dewis i gael eu llawdriniaeth yn eu hysbyty cyffredinol agosaf os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

 

Dyma un o'r prosiectau cyfalaf a amlygwyd yn y Cynllun Tair Blynedd. Bydd yn ein galluogi i ddefnyddio ardaloedd clinigol newydd er budd gofal cleifion.