Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ar Ganolfan Maggie's newydd ar gyfer Gogledd Cymru ar fin dechrau

09.07.2024

Mae'n bleser gan Maggie's, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Sefydliad Steve Morgan gyhoeddi bod gwaith ar fin dechrau ar adeiladu canolfan cymorth canser Maggie's yng Ngogledd Cymru ar 11 Gorfennaf.

Bydd staff arbenigol y ganolfan, a leolir ar diroedd Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, yn rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â theuluoedd a ffrindiau, ar draws y rhanbarth cyfan - gan gynnwys Bangor a Wrecsam.

Mae wedi cael ei chynllunio, ei chomisiynu a'i hariannu gan Sefydliad Steve Morgan a disgwylir iddi agor yn 2025.

Mae Canolfan Canser GIG Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd yn gweld rhyw 5,000 o bobl sy'n derbyn diagnosis canser newydd bob blwyddyn.

Dywedodd y Fonesig Laura Lee, Prif Weithredwr ym Maggie's: "Rydym ni'n hynod falch o ddechrau'r gwaith ar ein canolfan yng Ngogledd Cymru.

"Heb gymorth hynod hael Sefydliad Steve Morgan, ni fyddem wedi gallu dod â Maggie's i Ogledd Cymru ac rydw i mor ddiolchgar am hynny. 

Canolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda Sefydliad Steve Morgan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er mwyn sicrhau bod pobl Gogledd Cymru yn cael y cymorth sydd eisoes wedi bod yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl yn rhannau eraill o Gymru am 13 mlynedd." 

Mae Sefydliad Steve Morgan wedi darparu £4m i gynllunio, comisiynu ac adeiladu'r ganolfan yng Ngogledd Cymru. Hon yw'r ail ganolfan Maggie's i gael ei chynllunio, ei chomisiynu a'i hadeiladu gan Sefydliad Steve Morgan.

Dywedodd Liam Eaglestone, Prif Weithredwr Sefydliad Steve Morgan: “Mae'n bleser gennym helpu Maggie's i ddod â chymorth canser hollbwysig i bobl Gogledd Cymru, gan sicrhau y byddant yn derbyn cymorth arbenigol gwresog, croesawgar a hynny'n rhad ac am ddim gan ganolfan Maggie's ar garreg eu drws."

Mae Ysbyty Glan Clwyd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac mae'n gartref i Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru.

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: "Rydw i'n hynod falch bod gwaith yn dechrau ar Ganolfan Maggie's yng Ngogledd Cymru.

"Gan weithio'n agos gyda Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, sydd hefyd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd, bydd y cyfleuster newydd hwn yn ehangu ac yn gwella'r cymorth yr ydym yn ei gynnig i bobl sydd â chanser a'u teuluoedd.

"Rydw i hefyd am ddiolch yn benodol i Sefydliad Steve Morgan am eu cyllid hael a fydd yn arwain, rydw i'n siŵr, at gyfleuster hynod werth chweil." 

Gweler rhagor o wybodaeth am Maggie's yma: Maggie's | Everyone's home of cancer care (maggies.org)

Darllenwch ragor am Sefydliad Steve Morgan yma: Sefydliad Steve Morgan - Sefydliad Elusennol sy'n Darparu Cyllid, Cymorth a Chyngor

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)