Neidio i'r prif gynnwy

Dyn wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am gam-drin staff a chleifion ar ddwsinau o achlysuron

21.06.2024

Mae dyn a fu'n tarfu ar ysbytai ac unedau mân anafiadau ar draws gogledd Cymru, gan ddychryn staff a chleifion, wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol pum mlynedd.

Gorchmynnwyd Stephen Mark Evans, yn y llun ac o Abergele, i beidio â mynychu unrhyw ysbyty yng Ngogledd Cymru oni bai fod ganddo “angen gwirioneddol am driniaeth, asesiad neu gymorth a bod yn rhaid iddo adael pan ofynnir iddo wneud hynny” am gyfnod y gorchymyn.

Ymysg y pedwar amod arall a osodwyd, ni ddylai ddefnyddio “iaith nac ymddygiad aflan, difrïol, sarhaus, afreolus na bygythiol mewn unrhyw fan cyhoeddus yng Nghymru na Lloegr nac at unrhyw unigolyn”.

 Honnwyd bod Evans wedi ymweld ag adrannau achosion brys ysbytai ac unedau mân anafiadau yn ardal ein Bwrdd Iechyd fwy na 100 o weithiau ers Ionawr 2023. Roedd staff yn teimlo bod ei ymddygiad gwrthgymdeithasol mor ddrwg, cynghorwyd cydweithwyr i beidio â chael eu gadael ar eu pen eu hunain gydag ef.

Gadawodd Evans, a elwir hefyd yn Saggs, ysbytai cyn cael ei ryddhau'n swyddogol ar sawl achlysur, gan orfodi gweithwyr gofal iechyd i adael eu tasgau i chwilio amdano bob tro y byddai'n gwneud hynny. Mae'n bosibl ei fod wedi achosi oedi ac aflonyddwch i staff a chleifion.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer: “Mae bob amser yn benderfyniad anodd ystyried a ddylid troi at achos troseddol yn erbyn rhywun ond mae diogelwch ein staff a’n cleifion yn hollbwysig.

“Mae ein cydweithwyr yn mynd yr ail filltir yn eu dyletswyddau i geisio helpu pobl bob dydd, yn aml o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd, ac maen nhw’n haeddu parch.

“Mae'r erlyniad hwn yn anfon neges glir iawn i'r rhai sy'n cam-drin, yn dychryn ac yn bygwth ein staff a'n cleifion. Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru am eu cymorth i gael y Gorchymyn yn ei le.

“Nid ydym yn goddef camdriniaeth, bygythiadau nac ymddygiad ymosodol yn ein hysbytai a byddwn yn defnyddio grym llawn y gyfraith i atal ymddygiad o’r fath, os oes angen.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)