Neidio i'r prif gynnwy

Dathliadau Wythnos Gwirfoddolwyr 2024

Cynhelir Wythnos Gwirfoddolwyr yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin bob blwyddyn, ac mae'n gyfle i fudiadau gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn eu cymunedau.

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd pedwar digwyddiad rhanbarthol i nodi a dathlu 40 mlynedd ers sefydlu Wythnos Gwirfoddolwyr ac i ddweud DIOLCH YN FAWR IAWN wrth ein holl wirfoddolwyr am eu hymrwymiad a’u hymroddiad wrth wirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n fraint bod gennym ni gymaint o wirfoddolwyr anhygoel sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi eraill a rhoi ein cleifion wrth galon popeth y maen nhw’n ei wneud. Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl.

Dydd Mawrth, 4 Mehefin - Ardal y Canol PBC yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr yn Ysbyty Glan Clwyd

Daeth gwirfoddolwyr, hen a newydd, o bob rhan o Gonwy a Sir Ddinbych at ei gilydd i ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr. Roedd yn ddathliad anffurfiol hyfryd a oedd yn nodi’r amser a'r ymroddiad y mae Gwirfoddolwyr Robin yn eu rhoi i'r wardiau a'r adrannau y maent yn eu cefnogi. Mae gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o dîm BIPBC, ac roedd yn gyfle gwych i ddweud diolch yn fawr iawn am yr holl waith y maent yn ei wneud ac am fywiogi dyddiau ein cleifion.

Roeddwn i eisiau dweud diolch yn fawr iawn am ddydd Mawrth a’r cyfle i mi gwrdd â chydlynwyr y tîm a rhai o'r gwirfoddolwyr eraill o lefydd eraill. Roedd yn syniad hyfryd, ac roedd hi’n braf clywed am brofiadau pawb sy’n cael yr un pleser â mi wrth wirfoddoli. Er mai dim ond ers deufis dw i wedi bod wrthi, dw i’n edrych ymlaen yn fawr at bob sifft. - Paul M

Dydd Mercher, 5 Mehefin - Ardal y Gorllewin PBC yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr ym Mhorthaethwy

Cawsom ddathliad gwirfoddoli gwych yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr yr wythnos hon. Daeth dau ar hugain o Robiniaid a gwirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu eu bod yn gwirfoddoli i’r bwrdd iechyd. Cyflwynwyd tystysgrifau diolch a gwobrau am yr holl waith caled sy’n cael ei wneud i gefnogi staff a chleifion ar ein wardiau mewn ysbytai ledled Gwynedd ac Ynys Môn, a'r rhai sy’n parhau i gefnogi canolfannau brechu COVID. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau bwffe blasus o frechdanau a chacennau a sawl paned o de! Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol a phwysig o BIPBC ac roedd yn wych dod â nhw at ei gilydd i ddweud DIOLCH YN FAWR am bopeth y maen nhw'n ei wneud! [Hannah Coles, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Ardal y Gorllewin]

“Diolch yn fawr iawn am fy anrheg byddaf yn ei thrysori. Diolch i chi, ac i'ch tîm am bopeth rydych chi'n ei wneud i'r Robiniaid, dw i'n ei werthfawrogi." Ann, 12 mlynedd o wasanaeth

“Diolch yn fawr iawn am y dathliad heddiw, roedd yn braf dod at ein gilydd ac yn gyfle gwych i gwrdd â Robiniaid brwdfrydig eraill.”  Linda, 6 mlynedd o wasanaeth

“Diolch am ddathliad hyfryd a bwffe blasus. Roeddech chi wedi'i drefnu'n dda iawn ac roedd yn wych cwrdd â gwirfoddolwyr eraill. Roedd y lleoliad yn gyfleus hefyd.

Dw i wir yn edmygu'r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o'u hamser cyhyd. Da iawn Hannah." Yasmine, 10 mis o wasanaeth

“Diolch yn fawr iawn gan y ddau ohonom ni am y croeso a’r te hyfryd ddoe. Fe wnaeth y ddau ohonom ni fwynhau.” Ann, 3 mlynedd o wasanaeth

“Roeddwn i eisiau dweud diolch am brynhawn hyfryd. Roedd yn braf sgwrsio â'r gwirfoddolwyr eraill. Dw i'n edrych ymlaen at ddechrau wythnos nesaf.” Hayley, a fydd yn dechrau gwirfoddoli'r wythnos nesaf.

Dydd Iau, 6 Mehefin - Ardal y Dwyrain PBC yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint

Treuliodd gwirfoddolwyr o Ysbytai Cymunedol Sir y Fflint brynhawn bendigedig yn mwynhau paned a chacen yng Nghanolfan Arddio Daleside, ddydd Iau 6 Mehefin. Roedd yn gyfle gwych i’n gwirfoddolwyr dreulio amser yn sgwrsio a dal i fyny â’i gilydd. [Julie Parry, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Ardal y Dwyrain]