Neidio i'r prif gynnwy

Cymdeithas cleifion newydd yn codi arian ar gyfer sganiwr yn uned arennol Ysbyty Maelor Wrecsam

03/06/2024

Mae Cymdeithas Cleifion Arennau Ysbyty Maelor Wrecsam (WMKPA), a sefydlwyd yn ddiweddar, wedi llwyddo i godi arian i brynu sganiwr cludadwy i helpu cleifion hemodialysis yn uned arennol Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae’r sganiwr yn cael ei gydnabod gan nyrsys arbenigol fel darn pwysig o offer a fyddai'n gwella profiad cleifion yn fawr.

Nod yr WMKPA yw cynrychioli cleifion arennol o dan ofal Ysbyty Maelor Wrecsam, eu teuluoedd ac unrhyw un sy’n rhan o’u gofal fel y gallant gael mewnbwn i sut mae uned arennol Ysbyty Maelor Wrecsam yn cael ei rhedeg.

Mae croeso i bob claf ymuno â’r grŵp i helpu i sefydlu digwyddiadau cymorth, codi arian a sicrhau ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu cleifion.

Codwyd yr arian drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys diwrnod hwyl pêl-droed gan Elusen Andrew Lloyd, rhoddion coffa i Adrian Hill a rafflau a digwyddiadau ar yr uned arennol.

Dywedodd Roger Hickman, Cadeirydd WMKPA: “Mae pob un ohonom yn gleifion neu’n rhoddwyr byw ac mae arnom ddyled fawr i waith gwych Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam. Rydym am wneud yr hyn a allwn i helpu’r uned a chleifion eraill.

“Rydym hefyd yn ymwybodol iawn, er bod problemau yn ymwneud â’r arennau yn eithaf cyffredin, nid ydynt yn aml yn dod i’r amlwg ac rydym am wneud yr hyn a allwn i godi ymwybyddiaeth er mwyn helpu mwy o bobl.”

Dywedodd Clare Adamson, Prif Nyrs yr Uned Arennol: “Bydd rhodd y sganiwr llaw Xtra-Med yn gwella profiad cleifion dialysis yn fawr ac yn hybu cyfranogiad cleifion.

“Bydd yn cynorthwyo staff gyda gwyliadwriaeth mynediad fasgwlaidd ac yn caniatáu gwell technegau mewnosod caniwlâu, gan arwain at brofiad llawer mwy cadarnhaol i bob claf.”

Dywedodd y Brif Nyrs Gill Williams, Nyrs Arbenigol Mynediad Fasgwlaidd: “Bydd yn rhoi’r gallu i ni ganfod cymhlethdodau cynnar sy’n gysylltiedig â mynediad fasgwlaidd.

“Mae defnyddio’r sganiwr uwchsain â llaw bellach yn rhan o’r canllawiau a argymhellir gan BRS.

“Hoffwn ni fel tîm ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu i godi arian i brynu’r darn o offer gwerthfawr hwn, mae eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar y tîm.”