Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwr fasgwlaidd yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y coesau mewn ymgais i gael gwell canlyniadau i gleifion

07.06.2024

Mae nyrs fasgwlaidd flaenllaw yn arwain y ffordd o ran gwneud staff ac, yr un mor bwysig, gleifion yn ymwybodol o arwyddion clefydau gwythiennol yn rhannau isaf y coesau.

Heb eu trin, gall cyflyrau arwain at wlserau coesau sy'n gwrthod iacháu ac sy'n gallu arwain at dorri'r coesau i ffwrdd neu bethau gwaeth. Mae'r cyfan yn rhan o "Leg Matters", sef wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis a dulliau rheoli cynnar o ran cyflyrau sy'n effeithio ar gylchrediad y gwaed yn y coesau.

Wrth i bobl fyw'n hirach ac wrth i gyfraddau gordewdra a diabetes godi, nid yw'r broblem am ddiflannu'n fuan. Yn aml, gall hyn arwain at gymhlethdodau pellach a risg o heintiau difrifol. Mae ffactorau cyffredin eraill i rai pobl â chlefydau gwythiennol yn cynnwys: ysmygu, deiet afiach ac alcohol.

Felly, mae Clare Kendrick, rheolwr y ward fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o arwyddion cynnar clefyd gwythiennol, fel y gall cleifion fabwysiadu ffyrdd o fyw iachach neu dynnu sylw at symptomau'n gynharach ac i roi'r siawns orau bosibl iddynt gael canlyniad gwell.

Nyrsys atal strôc yn canfod ac yn cefnogi pobl a allai fod mewn perygl o gael strôc ar draws Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Yn ogystal, mae hi'n trefnu cymorth a hyfforddiant ychwanegol yngylch gofal y coesau a gorchuddion clwyfau arbenigol ar gyfer ei thîm.

Dywedodd: "Mae'n hynod bwysig i ni. Rydym yn gweld bod rhai cleifion yn cyrraedd yn rhy hwyr pan fydd ganddynt broblem. Pe bai pobl yn fwy ymwybodol o sut i ddelio â'r materion hyn yn gynt, efallai na fyddant yn colli'r coesau neu efallai na fyddant yn colli ansawdd eu bywyd."

Un o'r arwyddion cynnar a allai awgrymu clefyd gwythiennol o bosibl yw "gwythiennau pryf cop". Gwythiennau bach, gweladwy a chwyddedig yn rhannau isaf neu rannau uchaf y goes yw'r rhain. Gall eu trin yn gynnar atal datblygu clefyd gwythiennol.

Gall gwythiennau chwyddedig arwain at symptomau cynyddol hefyd, yn aml. Gall hyn ddatblygu'n edema'r coesau, sef chwyddo yn y coesau sy'n gallu arwain at groen coslyd, dolur difrifol neu grampiau. Gall hefyd arwain at syndrom coesau aflonydd - sef angen gorlethol i symud eich coesau, sy'n gallu bod yn waeth yn ystod y nos.

Os bydd hyn yn datblygu, gall newidiadau fel croen teneuach ac afliwio brown o ran y croen ddigwydd. Mae'r afliwio'n cael ei achosi gan waed sy'n gollwng o'r pibelli gwaed ac i mewn i'r croen.

Mae wlserau'n awgrymu bod y clefyd gwythiennol wedi cyrraedd cam datblygedig, gan achosi poen eithafol, cosi a dirywiad o ran ansawdd bywyd.

Gweler rhagor o wybodaeth am "Wythnos Leg Matters" yma: Leg Health & Foot Care Information & Advice | Legs Matter

Un o'r symptomau fasgwlaidd eraill y byddant yn codi ymwybyddiaeth ohono yw poen cloffi ysbeidiol. Mae hyn yn cael ei achosi gan gramennau brasterog yn y pibelli gwaed sy'n cyflenwi'r goes ac mae hefyd yn cael ei alw'n glefyd y rhydwelïau perifferol.

Gall poen amrywio rhwng bod yn ysgafn i ddifrifol ac yn aml, daw ar ffurf dolur poenus yng nghoesau pobl pan fyddant yn cerdded. Fel arfer, mae'n diflannu ar ôl gorffwys am ychydig funudau. Mae nifer o symptomau eraill a gallwch ddarllen mwy amdanynt yma: Peripheral arterial disease (PAD) - NHS (www.nhs.uk)

Mae tîm Clare yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am glefydau'r gwythiennau ymysg y boblogaeth a bydd stondin gwybodaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Ychwanegodd Clare: "Mae llawer o bobl yn dod atom ni pan fo ganddynt broblem fawr ond fel arfer, mae llawer o arwyddion cyn iddi gyrraedd pwynt difrifol. Rydym am wneud pobl yn ymwybodol o'r arwyddion hynny, gan fod ymyrraeth gynnar yn hollbwysig. Mae ataliaeth, lle bo pobl yn newid eu ffyrdd o fyw lle bo'n bosibl, hyd yn oed yn well."

Ynghyd â gwybodaeth i gleifion, bydd hyfforddiant rhwymynnau cywasgu i nyrsys ar y ward a bydd mynediad at fwy o gyrsiau hyfforddiant ynghylch gofal y coesau.

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)