Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion cyntaf yn cael eu derbyn i Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy

Mae Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, a gafodd ei adeiladu i gynyddu’r capasiti yn ystod y pandemig COVID-19, wedi derbyn ei gleifion cyntaf.

Daeth ychydig o gleifion, sy’n dod i ddiwedd eu triniaeth ar gyfer COVID-19, i’r ysbyty'r wythnos diwethaf.

Arfon Hardy, o’r Wyddgrug, oedd y claf cyntaf i gael ei dderbyn i’r ysbyty dros dro ar ôl treulio ychydig dros fis yn derbyn gofal yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ar ôl cael diagnosis bod y firws arno.

Dywedodd Arfon, sy’n 55 oed: “Cefais fy nerbyn i Ysbyty Maelor ychydig dros fis yn ôl gyda haint, cefais brawf COVID-19 ar ôl cyrraedd a ddaeth yn ôl yn bositif. 

“Nid oedd gennyf unrhyw syniad bod y firws arnaf, nid oedd gennyf unrhyw un o’r symptomau, felly roedd yn dipyn o sioc.

“Yn anffodus, cefais ddiagnosis o Sepsis hefyd felly es i’n wael iawn ac roedd y firws yn gwneud popeth yn llawer gwaeth.

“Yn ffodus, ar ôl tair wythnos a hanner dechreuais deimlo’n llawer gwell ac roedd hynny’n bennaf oherwydd y staff anhygoel sy’n gweithio yn Ysbyty Maelor a oedd yn gofalu amdanaf, ni allaf ddiolch iddynt ddigon.”

Dywedodd Arfon, sy’n aros am becyn gofal i fynd yn ôl adref, ei fod wedi cael croeso cynnes gan y staff yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy.  

“Pan gefais wybod fy mod yn symud i’r ysbyty dros dro, nid oeddwn yn siŵr beth i’w ddisgwyl.

“Wrth i mi gyrraedd roedd yr holl staff allan yn clapio i fy nghroesawu, roedd yn fendigedig ac roeddwn yn teimlo’n arbennig iawn.  

“Mae’r ysbyty hwn yn anhygoel, mae mor lân ac mae’r staff yn wych.  

Ychwanegodd, “Rwy’n derbyn gofal ardderchog ac yn gweithio gyda’r ffisiotherapydd bob dydd sy’n fy nghryfhau, felly rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu mynd adref yn fuan iawn.”

Ar hyn o bryd, mae hyd at 30 o welyau yn yr ysbyty i gleifion ar draws Gogledd Cymru sy’n gwella o COVID-19 ac sydd angen gofal parhaus.

Dywedodd Jess Booker, Rheolwr Ward, sydd wedi cael ei hadleoli o Ysbyty Cymunedol Treffynnon, bod gweithio yn yr ysbyty dros dro yn gyfle gwych i staff feithrin sgiliau newydd. 

Dywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at dderbyn ein cleifion cyntaf yma yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy.

“Bydd y pwyslais ar adsefydlu, ac mae gennym dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys ffisiotherapyddion a dietegwyr a fydd yn helpu i gael ein cleifion yn ôl ar eu traed fel eu bod yn gallu mynd adref.

“Yn bersonol, mae hwn yn gyfle gwych i’r staff nyrsio gan ein bod yn gallu gwella ein sgiliau clinigol, ond yn bwysicaf oll, mae’n mynd i fod yn wych i’n cleifion.”

Dywedodd Mandy Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro Nyrsio Gofal Eilaidd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae pob un ohonom wedi bod yn gweithio’n galed dros y misoedd diwethaf i wneud yn siŵr bod y paratoadau ar waith i dderbyn ein cleifion cyntaf.

“Mae staff wedi mynd gam ymhellach i’w rolau i wneud yn siwr bod hyn yn digwydd fel bod cleifion yn gallu derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

“Ar ran y bwrdd, hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid sydd wedi gweithio gyda ni am eu cefnogaeth o ran diogelu’r capasiti ychwanegol hwn mewn cyfleuster ardderchog.”