Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

Hysbysiad yn unol ag Adran 17(3) y Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Yr Ombwdsmon) wedi ymchwilio i gŵyn a chanfod camweinyddiaeth/ methiant gwasanaeth gan Gyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chartrefi Cymru (“CC”), darparwr gofal cofrestredig, ac mae wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau ei ymchwiliad i’r tri sefydliad yma. Roedd y gŵyn yn ymwneud â materion:

a) Y gofal ar gyfer Mr N a ddarparwyd gan CC
b) Methiannau mewn cyfathrebu rhwng Cyngor Gwynedd, y Bwrdd Iechyd a CC, a achosodd i CC beidio â derbyn yr holl ddogfennau/ adroddiadau/ cynlluniau gofal ar gyfer Mr N.

Gellir gweld copi o’r adroddiad yma.

Bydd ar gael i’r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol yn:

  • Siop Gwynedd, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH
  • Swyddfeydd Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW
  • Cartrefi Cymru, 5 Iard Coopers, Ffordd Curran, Caerdydd CF10 5NB
  • Cartrefi Cymru, 30 Stryd Deon, Bangor, Gwynedd LL57 1UR

Bydd yr adroddiad ar gael am gyfnod o 3 wythnos o 06/02/2020 a chaiff unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny gymryd copi o’r adroddiad hwn neu nodi dyfyniadau ohono. Bydd llungopïau o’r adroddiad neu rannau ohono yn cael eu gwneud am 10 ceiniog y daflen.