Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad i'r Wasg gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mark Polin

Mae Gary Doherty yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr y mis hwn i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Integreiddio yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Addysgu Swydd Gaerhirfryn.

Aeth y Bwrdd Iechyd i Fesurau Arbennig ym mis Mehefin 2015 a phenodwyd Gary yn Brif Weithredwr ym mis Chwefror 2016.

Mae’r Bwrdd yn cydnabod bod arnom angen cyflymu’r newid ac mae’n amser i rywun arall arwain cam nesaf ein taith tuag at wella.

Bydd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru yn ymgymryd â swydd y Prif Weithredwr dros dro o ddydd Llun 10 Chwefror 2020. Gwnaeth Simon y swydd hon pan roddwyd y Bwrdd Iechyd mewn Mesurau Arbennig yn 2015, felly mae’n adnabod y sefydliad yn dda.

Bydd y gwaith o chwilio am olynydd parhaol yn dechrau’n syth.

Hoffwn ddiolch i Gary ar ran y Bwrdd a’r holl staff am ei waith caled ac rydym yn dymuno’r gorau iddo i’r dyfodol.