Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru
Ionawr 13, 2025
Nid yw'n rhy hwyr i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag y ffliw a COVID-19
Mae ffliw, COVID-19 a firysau eraill y gaeaf yn dal i fod ar led yn y gymuned, ac yn achosi salwch cas i nifer fawr o bobl.
Ers 23 Rhagfyr, mwy na 300 o gleifion mewnol yn ein hysbytai wedi cael prawf ffliw positif. Dyma’r lefel uchaf o heintiau ffliw yn ein hysbytai ers Rhagfyr 2022.
O heddiw ymlaen, gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer brechlyn ffliw’r GIG alw heibio heb apwyntiad i un o’n canolfannau brechu cymunedol i roi hwb i'w hamddiffyniad rhag salwch difrifol.
Mae oedolion cymwys yn cynnwys pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, pobl â chyflyrau iechyd gwaelodol, menywod beichiog a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Cewch fanylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer brechlyn ffliw y GIG yma. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gael yma.
Gall y brechlyn leihau eich siawns o ddal y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn ei ddal, a lleihau'r tebygolrwydd y byddwch yn trosglwyddo'r firws i eraill. Mae’n helpu i amddiffyn y gymuned ehangach rhag brigiadau, ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau GIG lleol.
Os ydych eisoes wedi derbyn gwahoddiad i gael eich brechlyn ffliw GIG yn eich meddygfa, ewch i'r apwyntiad fel y cynlluniwyd. Bydd meddygfeydd teulu a thimau imiwneiddio ysgolion lleol hefyd yn dal i gynnig y brechlyn ffliw drwy chwistrell trwyn di-boen i blant.
Mae clinigau galw heibio ar gyfer brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gyfer pob oedolyn cymwys eisoes ar gael yn ein canolfannau brechu cymunedol. Os ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.
Rydym yn annog unrhyw un sy’n gymwys ond nad yw wedi cael y brechlynnau ffliw neu COVID-19 eto i fanteisio ar y cyfle i leihau eu risg o salwch difrifol.
Cewch fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer y brechlynnau a mwy o fanylion am leoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau brechu galw heibio yma.
Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo