Bydd pobl sydd ag imiwnedd wan i salwch oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol yn gallu galw heibio heb apwyntiad yn un o'n clinigau brechu i gael brechiad atgyfnerthu rhag COVID-19 o heddiw ymlaen
Mae hyn yn cynnwys oedolion sy'n cael cemotherapi neu radiotherapi, unigolion sydd wedi derbyn trawsblaniad organau, mêr esgyrn a bôn-gelloedd, a phobl â HIV.
Bydd oedolion ag anhwylderau genetig sy'n effeithio ar eu system imiwnedd, neu sy'n cael triniaethau sy'n effeithio ar eu system imiwnedd neu’n cyfyngu arni hefyd yn gallu galw heibio i gael y brechlyn.
Mae rhestr lawn o gleifion cymwys, fel y'u diffinnir yn yr adran Imiwnedd Gwan, Tabl 3 ym Mhennod 14a o'r Llyfr Gwyrdd (Saesneg yn unig), ar gael isod.
Gall cleifion sy'n oedolion fynychu un o'n clinigau o heddiw ymlaen hyd yn oed os oes ganddynt apwyntiad eisoes wedi’i drefnu. Nid oes angen cysylltu â ni i ganslo'r apwyntiad hwnnw.
Mae llythyrau gwahoddiad ar gyfer apwyntiadau brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 bellach wedi’u hanfon at bawb yng Ngogledd Cymru sy’n 65 oed neu’n hŷn ac at bawb rhwng chwe mis a 64 oed â chyflwr iechyd sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o’r firws.
Disgwyliwn y bydd pob claf yn y grwpiau hyn wedi cael eu hapwyntiad erbyn diwedd yr wythnos hon. Bydd y llythyrau gwahoddiad yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad. Rydym yn annog pawb a wahoddir i dderbyn brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 i wirio eu gwahoddiad yn ofalus oherwydd gallai lleoliad eu hapwyntiad fod yn wahanol i’r hyn oedd yn ein hymgyrchoedd blaenorol. Cynhelir apwyntiadau drwy gydol mis Rhagfyr a mis Ionawr.
Mae ein timau hefyd yn parhau i frechu menywod beichiog a phobl sy'n gaeth i'r tŷ.
Ar hyn o bryd, dim ond cleifion sy'n oedolion sydd ag imiwnedd gwan sy’n gallu defnyddio’r clinigau galw heibio am frechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19. Dylai pob claf arall, gan gynnwys y rhai a wahoddwyd o ganlyniad i gyflwr iechyd arall, gadw at yr apwyntiad yn eu llythyr lle bo modd.
Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon ac efallai y bydd y sesiynau galw heibio ar gyfer brechlynnau ar gael i grwpiau eraill yn yr wythnosau nesaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei roi ar y dudalen hon cyn gynted ag y bydd ar gael.
Mae holl staff y GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill, gofalwyr di-dâl 16 oed neu hŷn a phobl sy’n profi digartrefedd yn gymwys i gael atgyfnerthiad rhag COVID-19 os ydynt yn dymuno gwneud.
Yn dilyn canllawiau gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru, ni fydd y bwrdd iechyd yn anfon gwahoddiad ar gyfer apwyntiad brechu i bobl yn y grwpiau hyn eleni. Gall pobl yn y grwpiau hyn sy’n dymuno cael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 drefnu apwyntiad drwy ffonio ein Canolfan Cyswllt Brechu rhag COVID-19 ar 03000 840004.
Mae pawb yn y grwpiau hyn yn cael cynnig brechlyn ffliw y GIG, ac rydym yn annog pawb sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig hwn i leihau’r risg o salwch difrifol a achosir gan ffliw y gaeaf hwn.
Hyd yn hyn mae ein timau brechu a’n partneriaid mewn gofal sylfaenol wedi rhoi mwy na 100,000 o frechlynnau atgyfnerthu rhag COVID-19 i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yma yng Ngogledd Cymru.
Mae meddygfeydd teulu, fferyllfeydd cymunedol a thimau imiwneiddio ysgolion hefyd wedi helpu mwy na 170,000 o bobl i leihau eu risg o gael haint ffliw difrifol drwy dderbyn brechlyn ffliw blynyddol y GIG.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi derbyn y cynnig i roi hwb i’w hamddiffynfeydd yn erbyn COVID-19 a’r ffliw, ac rydym yn annog unrhyw un sy’n dal yn gymwys i gael y brechlynnau i dderbyn eu gwahoddiad cyn gynted â phosibl er mwyn amddiffyn eu hunain, eu hanwyliaid a’r gymuned ehangach y gaeaf hwn. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i dderbyn eich brechlynnau ar gael yma.
Mae lefelau firysau’r gaeaf yn y gymuned yn codi, felly mae’n hanfodol bod grwpiau agored i niwed yn cael eu hamddiffyn cymaint â phosibl rhag y salwch difrifol y gall ffliw a COVID-19 ei achosi.
Mae firysau'n newid bob blwyddyn - felly mae'n bwysig cael y brechlyn diweddaraf i gael yr amddiffyniad gorau posibl rhag y straeniau o'r firws sy'n cylchredeg ar hyn o bryd.
Mae cleifion ag imiwnedd is neu wedi’i wanhau yn cynnwys: