Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Diweddariadau ar ein cynlluniau brechu a chynnydd ar y brechiadau yng Ngogledd Cymru

Hydref 1, 2024

Mae meddygfeydd, fferyllfeydd cymunedol a thimau brechu'r Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru wedi dechrau cynnal sesiynau brechu rhag y  ffliw a COVID-19 i helpu i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed rhag y risg o salwch difrifol y gaeaf hwn.

Lansiwyd ymgyrch brechu’r gaeaf eleni heddiw, gyda brechlyn ffliw’r GIG bellach ar gael i oedolion cymwys – gan gynnwys y rhai 65 mlwydd oed a hŷn, pobl â chyflyrau iechyd isorweddol, staff iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl.

Mae timau brechu'r Bwrdd Iechyd hefyd wedi dechrau darparu brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal a phobl 65 mlwydd oed a hŷn sy'n gaeth i'w cartrefi. Byddwn yn dechrau cynnal apwyntiadau brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys eraill yn ein canolfannau brechu o ganol mis Hydref ymlaen.

Mae menywod beichiog a phobl 75 mlwydd oed a hŷn bellach yn gymwys i gael brechlyn RSV.  

Mae rhestr o grwpiau cymwys ar gyfer ein rhaglenni brechu, gan gynnwys gwybodaeth am sut a ble y gall pobl sy'n gymwys gael eu brechu ar gael yma.

Rydym yn annog pawb sy’n gymwys ar gyfer brechiadau ffliw, RSV a brechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19 y gaeaf hwn i dderbyn ein gwahoddiad am frechiadau er mwyn amddiffyn eu hunain yn well rhag salwch difrifol.

Cadwch olwg am wahoddiad gan eich meddygfa, fferyllfa gymunedol neu'r Bwrdd Iechyd a gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar y cynnig i roi hwb i'ch amddiffyniad y gaeaf hwn.  


 

Mae diweddariadau blaenorol

Mae diweddariadau blaenorol wedi'u harchifo