Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi rhyddhau adroddiad yn seiliedig ar arolygiad dirybudd pellach o Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd, a ganhaliwyd rhwng 28 a 30 Tachwedd, 2022.

Dywedodd Dr Nick Lyons, Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am yr achosion lle na wnaeth cleifion dderbyn lefel y gofal yr oeddent yn ei haeddu. Nodaf sylwadau'r tîm arolygu'n ymwneud â gwelliannau ers yr adroddiad diwethaf ond mae'n amlwg bod gennym le i wella o ran darparu gwasanaeth yn ein hadran achosion brys sy'n dda yn gyson i bob claf.

"Mae'n wir bod staff yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd wedi bod o dan straen enfawr dros y tair blynedd diwethaf ac mae hyn wedi cynyddu ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

"Mae ymdrechion i ddenu aelodau parhaol o staff i roi cymorth gyda gwaith yr Adran Achosion Brys yn parhau ac mae diwrnod agored recriwtio arall wedi'i drefnu o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

"Fodd bynnag, mae'r sefyllfa fregus o ran staffio a lefel y bobl â salwch acíwt sy'n dod atom ni bob dydd yn golygu ein bod yn dal i fod yn wasanaeth lle bo angen gwelliant sylweddol.

"Mae'r rhan helaethaf o'n cydweithwyr yn gaffaeliad i'n sefydliad ac rydym ni'n gwerthfawrogi eu gwaith caled a'u proffesiynoldeb. Byddwn ni'n parhau i ymdrechu i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi gan gydweithwyr mewn arbenigeddau eraill a'u timau rheoli ysbyty.

"Roeddwn yn falch o weld sylwadau'r tîm arolygu yn ymwneud â pha mor galed y mae ein staff yn gweithio ac yn ymwneud â'u hymrwymiad. Rydw i hefyd yn falch bod y rhan fwyaf o'r cleifion y gwnaethant siarad â nhw'n fodlon ar y gofal y maent yn ei dderbyn yn yr adran.

"Mae dulliau cadw cofnodion wedi gwella a nododd y tîm arolygu ymrwymiad ein staff i roi'r lefel o ofal y byddai pob un ohonom ni'n awyddus i'w weld.

"Er gwaethaf y materion a gododd o'r adroddiad, gwnaeth y tîm arolygu gydnabod bod cynnydd wedi'i wneud ond gwyddom fod angen i ni wneud hynny'n gyflymach.

"Mae ein cydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys, ac mewn rhannau eraill o'r ysbyty, yn canolbwyntio'n llwyr ar yrru'r newid hwn yn ei flaen ac rydym yn falch o weld bod cyfran y cleifion sy'n symud trwy'r adran o fewn pedair awr yn parhau i godi."