Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu cynlluniau manwl wedi'u costio ar gyfer cyfleuster iechyd meddwl newydd i gleifion mewnol ar safle Ysbyty Glan Clwyd.
Mae hyn yn cynrychioli pennod newydd o ran sut mae gofal iechyd meddwl yn cael ei ddarparu i rai o'r bobl gwaelaf yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Bydd y cyfleuster newydd, a fydd yn disodli'r Uned Ablett sy'n bod yn barod, yn rhan o'r gwaith trawsnewid ehangach i wasanaethau iechyd meddwl a amlinellir yn ein strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru.
Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys:
Bydd y cyfleuster newydd hefyd yn ein galluogi i gyflwyno model newydd o ofal sy'n bodloni anghenion ein cleifion yn well yn awr, ac yn y dyfodol.
Ym mis Awst 2019 bu i ni benodi Gleeds fel rheolwr prosiect a chostau ar gyfer yr ailddatblygiad a BAM Construction fel ein partner adeiladu.
Gan weithio'n agos â Gleeds a BAM Construction, rydym wedi ymgynghori'n eang ar y newidiadau i'n model o ofal, a'r manyleb ar gyfer y cyfleuster newydd.
Ebrill 2021
Ym mis Ionawr, gwrthodwyd cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol ar safle sydd i dde orllewin tir yr ysbyty gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, gan nodi’r effaith annerbyniol ar breswylwyr lleol.
Rydym bellach yn archwilio’r posibilrwydd o adeiladu ar gornel sydd i ogledd orllewin campws yr ysbyty, oddi wrth ffiniau’r preswylwyr. Darllenwch ein diweddariad.
Cylchlythyrau Ailddatblygiad Uned Ablett |
Tachwedd 2019 |