Neidio i'r prif gynnwy

Ryan Roberts

Mae dyn o Abergele wedi siarad am sut mae wedi cael cefnogaeth i oresgyn ei bryder a chamu mewn i’r byd gwaith, diolch i raglen cyflogaeth unigryw.

Mae Ryan Roberts, 22, yn un o dros chwe deg unigolyn yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth i gael gwaith drwy’r rhaglen MI FEDRAF Weithio ers iddi gael ei chyflwyno yn 2019.

Mae MI FEDRAF Weithio yn helpu pobl sy’n cael trafferth dod o hyd i swydd neu ei chadw oherwydd problemau iechyd meddwl ysgafn i gymhedrol. Mae’r rhaglen yn ceisio helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros ynddo, er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a’u lles. 

Caiff y prosiect peilot, sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru, ei arwain gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth â’r elusen gwasanaethau cefnogi personol CAIS a Strategaeth Dinas y Rhyl, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n un o’r nifer o fentrau sy’n cael eu lansio trwy ymgyrch MI FEDRAF (I CAN) y Bwrdd Iechyd, sy’n ceisio grymuso pobl i reoli eu hiechyd meddwl a darparu cefnogaeth yn gynt i’r rheiny sy’n cael anawsterau.

Ar ôl astudio Datblygu Gemau yng Ngholeg Llandrillo Menai, dywedodd Ryan, sydd weithiau’n cael anawsterau gyda rheoli ei bryder, ei fod wedi ‘dod at faen tramgwydd’ wrth geisio camu mewn i’r byd gwaith.

Eglurodd, “Roeddwn wedi ymgeisio am ddwsinau o swyddi ond nid oeddwn yn llwyddiannus nac yn cael unrhyw ymateb.”

“Roeddwn wedi dod at faen tramgwydd. Roedd yn torri fy nghalon ac roeddwn yn meddwl pam nad oedd neb yn rhoi cyfle i mi.”

Yn benderfynol o wella ei nod o ddod o hyd i swydd a meddu ar sgiliau newydd, dechreuodd Ryan wirfoddoli gyda’r Crest Co-operative sydd wedi’i lleoli yng Nghyffordd Llandudno.

Dywedodd, “Bu i mi gwblhau dros 100 awr o waith gwirfoddol ac roedd yn fy helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn manwerthu a rheoli stoc.”

Yna cafodd Ryan ei gyfeirio at y rhaglen MI FEDRAF Weithio, lle cafodd gefnogaeth ddwys gan Lorraine Ann, Arbenigwr Cyflogaeth gyda Strategaeth Dinas y Rhyl, i ddod o hyd a pharatoi at waith cyflogedig addas.

Ym mis Ionawr, llwyddodd i gael swydd gyda Chymdeithas Cyfeillion yn Ysbyty Glan Clwyd ar gytundeb parhaol 20 awr yr wythnos. Mae wedi parhau i gael cefnogaeth gan y rhaglen MI FEDRAF Weithio trwy gydol ei gyflogaeth.

Dywedodd Ryan: “Edrychom ar wahanol swyddi y gallaf ymgeisio amdanynt ar sail yr hyn yr hoffwn ei wneud a’r hyn y gallaf ei wneud, gyda fy sgiliau a fy mhrofiad. Cefais fy nghefnogi i wneud cwrs rheoli pryder hefyd, sydd wedi fy helpu’n fawr iawn.

“Cefais nifer o gyfweliadau ffug hefyd i fy helpu i baratoi at fy nghyfweliadau. O ganlyniad roeddwn yn teimlo fy mod wedi paratoi yn dda ac roedd yn helpu gyda fy mhryder.

“Mae fy mhrif dyletswyddau’n cynnwys sicrhau bod yna ddigon o stoc, gwneud archebion a helpu o ran cynnal y bar te.

“Rwyf wir yn mwynhau’r swydd a’r drefn y mae wedi’i roi i mi. Mae bod mewn gwaith wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato bob dydd. Rwy’n cyfarfod pobl newydd yn fy ngwaith bob dydd, sy’n gyffrous.”

Dengys ymchwil bod dros ddau draean o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol yn ddi-waith, ac mae tystiolaeth gynyddol yn bod sy’n cysylltu cyflogaeth â gwell iechyd meddwl, lles ac ansawdd bywyd.

Mae MI FEDRAF Weithio wedi’i seilio ar egwyddorion rhaglen gyflogaeth Cefnogaeth a Lleoliad Unigol (IPS), a ddefnyddir ar draws y byd ac sy’n cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal (NICE) fel y model arweiniol i helpu pobl sydd ag iechyd meddwl gwael i gael gwaith.

Dyma’r tro cyntaf i’r dull hwn gael ei fabwysiadu ar raddfa fawr yng Nghymru, a gobeithir y bydd y rhaglen beilot yn cael ei hymestyn.

Ganfod mwy am y rhaglen MI FEDRAF Weithio.