Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau MI FEDRAF Cymunedol

Mae Canolfannau Cymunedol Mi FEDRAF yn cynnig cyfle i sgwrsio am eich problemau dros baned, cael rhywun yn gwrando arnoch heb farnu, a chael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnoch.

Gallwch gael mynediad atynt drwy alw heibio - heb angen eich cyfeirio gan eich Meddyg Teulu na threfnu apwyntiad.

Drwy Ganolfannau Cymunedol Mi FEDRAF, gallwch gael mynediad at gymorth a chyngor ar ystod o faterion a all fod yn eich poeni, gan gynnwys dyled, perthnasau'n dod i ben, problemau cyffuriau neu alcohol, anawsterau cyflogaeth, profedigaeth, tai ac unigrwydd.

Mae'n iawn peidio bod yn iawn weithiau, felly os ydych yn cael anhawster am ba bynnag reswm, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni. Mae'r tegell yn berwi drwy'r adeg ac mae ein tîm cyfeillgar a phrofiadol o staff a gwirfoddolwyr yma i'ch arwain yn ôl at y trywydd cywir.

Mae Canolfannau Cymunedol Mi FEDRAF yn y lleoliadau canlynol ledled Gogledd Cymru: