Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant yr Iaith Gymraeg

Ein nod yw galluogi pawb sy'n defnyddio ein gwasanaethau i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, yn ôl dewis personol ac annog defnyddwyr a darparwyr eraill i ddefnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg yn y sector iechyd.

Mae gennym weledigaeth glir – dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â'n gwasanaethau gael eu trin â pharch ac urddas, a derbyn gwasanaeth diogel ac ymatebol sydd ar gael yn eu dewis iaith.

Nodir bod hyfforddiant iaith Gymraeg yn flaenoriaeth allweddol i'n holl staff er mwyn sicrhau bod gennym y gallu i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog. Mae gennym diwtor llawn amser a swyddog cymorth hyfforddiant iaith Gymraeg i ddarparu cyrsiau a grwpiau ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru. Mae'r tiwtor hefyd wedi creu tudalen YouTube sydd ag amrywiaeth o fideos i'ch helpu i ddysgu ymadroddion Cymraeg sylfaenol -Tiwtor y Gymraeg Betsi Cadwaladr - YouTube

I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg, anfonwch e-bost at: BCU.WelshLanguageTutor@wales.nhs.uk

Alla i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr os nad ydw i'n siarad Cymraeg?

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ‘hanfodol’ ar gyfer rhai swyddi ond ‘dymunol’ i swyddi eraill. Nodir lefel cymhwysedd Cymraeg yn y disgrifiad swydd (gweler y tabl Matrics isod).

Beth mae 'Cymraeg yn hanfodol' yn ei olygu?

'Cymraeg hanfodol' yw'r gallu i siarad Cymraeg sgyrsiol gyda chleifion ac aelodau o'r cyhoedd. Mae staff wedi mynegi pryderon yn y gorffennol am yr hyn a ddisgwylid ganddynt pe baent yn gwneud cais am swyddi hanfodol Cymraeg. Does dim disgwyl iddyn nhw siarad pob gair yn Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn hanfodol yn golygu gallu sgwrsio â chleifion yn eu hiaith gyntaf, gan wneud iddynt deimlo'n gartrefol yn yr hyn sy'n aml yn sefyllfa sy'n achosi straen mawr.

Mae cyfle i bawb peth bynnag eich gallu, i ddysgu neu wella eich Cymraeg unwaith y byddwch wedi dechrau gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Tabl Matrics Iaith Gymraeg

Lefel 1

Lefel 2

Lefel 3

Lefel 4

Lefel 5

Gallaf ddangos cwrteisi ieithyddol trwy agor a chau sgwrs yn Gymraeg. Gallaf roi a derbyn manylion personol. Gallaf ddweud enwau lleoedd/enwau cyntaf neu arwyddion Cymraeg yn gywir

Gallaf ddeall hanfod cais gan y cyhoedd ac ymateb i geisiadau syml. Gallaf roi a derbyn cyfarwyddiadau

Yn gallu defnyddio brawddegau mwy cymhleth gan ddefnyddio cymalau. Mae ganddynt ddigon o eirfa i ddelio â sefyllfaoedd bob dydd annisgwyl, e.e. sgwrsio wrth gwrdd â dieithryn. Yn defnyddio acen a phwyslais gyda chywirdeb digonol i fod yn ddealladwy ac i egluro ystyron. Gallu sgwrsio yn bennaf yn Gymraeg ond troi at Saesneg mewn trafodaeth i roi gwybodaeth fanwl.

Yn gallu creu rhai brawddegau cymhleth ac mae ganddo eirfa ddigonol i allu trafod unrhyw faterion anarbenigol sy'n codi, a delio â sefyllfaoedd mwy ffurfiol o ystyried y cyfle i baratoi, e.e. asesiadau, cyfweliadau a chyfarfodydd.

Yn rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gallaf ddelio’n effeithiol gydag ymholiadau cymhleth gan y cyhoedd neu wrthdaro yn Gymraeg. Gallaf gyfweld neu gwestiynu yn Gymraeg yn ystod ymchwiliad