Neidio i'r prif gynnwy

Strategaethau Synhwyraidd

Fel bodau dynol, mae ein holl ddatblygiad sgiliau a dehongliad o'r amgylchedd wedi'i seilio ar ein gallu i ddeall a dehongli mewnbynnau synhwyraidd yn ddigonol a chynhyrchu ymatebion priodol. Mae gan wahanol bobl wahanol anghenion synhwyraidd a gan amlaf nid yw'r rhain yn ymyrryd â'n gallu i weithredu i gyflawni ein rolau dyddiol amrywiol - fodd bynnag, mae rhai plant yn ei chael hi'n anodd deall a phrosesu gwybodaeth synhwyraidd, a gall hyn arwain at gael ystod o ymatebion nad ydynt yn briodol ar gyfer y sefyllfa o'u blaen. Gall yr anawsterau gymryd ffurf unrhyw beth o ddehongli'r amgylchedd fel bygythiad drwy gael anawster yn deall beth sy'n digwydd o'u cwmpas. Y naill ffordd neu'r llall mae'n effeithio ar eu gallu i ymgysylltu'n gymdeithasol, yn addysgol ac yn swyddogaethol.

Mae problemau prosesu synhwyraidd yn gymhleth. Mae penderfynu faint mae ymddygiad plentyn yn cael ei ddylanwadu gan anhawster synhwyraidd sylweddol, os y caiff ei ddylanwadu o gwbl, yn cynnwys asesiadau estynedig ac arsylwi plentyn mewn amrywiaeth o leoliadau. Gall yr hyn a all ymddangos fel ymateb syml i fewnbwn synhwyraidd fod â sail emosiynol, seicolegol, cymdeithasol neu ymddygiadol gymhleth. Hefyd, gall ymateb plentyn i sbardunau synhwyraidd amrywio'n fawr o ddydd i ddydd gan ei gwneud hi'n anodd dehongli a darparu'r strategaethau sy'n gweithio'n gyson.

Mae'n bwysig deall nad yw'r diagnosis 'Anhwylder Prosesu Synhwyraidd' (SPD) yn cael ei gydnabod gan y proffesiwn meddygol fel diagnosis annibynnol penodol a chaiff problemau synhwyraidd eu hystyried fel symptomau o ddiagnosis eraill mwy cyffredinol megis awtistiaeth, dyspracsia neu oedi datblygiadol cyffredinol. Mae ymchwil am effeithiolrwydd triniaethau uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar newid systemau synhwyraidd y plentyn yn amhendant ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn driniaethau prif ffrwd y GIG.

Mae ein dull o brosesu synhwyraidd yn cydnabod y problemau hyn ac yn canolbwyntio ar:

  • wella dealltwriaeth a dehongliad o broblemau synhwyraidd
  • adnabod y sbardunau i ymatebion synhwyraidd
  • cyflwyno strategaethau i fynd i'r afael â neu osgoi'r sefyllfa
  • addysgu eraill am brosesu synhwyraidd

Efallai y bydd asesiad synhwyraidd pellach yn digwydd os byddwn yn penderfynu bod y materion synhwyraidd yn cael effaith sylweddol ar feysydd penodol o weithgareddau bywyd bob dydd ond ar gyfer asesiad mwy cynhwysfawr o p'un a yw problemau synhwyraidd y plentyn yn effeithio ar ei ymddygiad neu ei sgiliau cymdeithasol rhaid gofyn am gyngor gan arbenigydd sydd wedi'i hyfforddi i asesu problemau synhwyraidd cymhleth.