Neidio i'r prif gynnwy

Hunan Ofal

Mae dysgu sut mae ymolchi a defnyddio'r toiled yn annibynnol yn gerrig milltir pwysig yn natblygiad plentyn. Pan fydd plant yn ifanc, mae rhieni'n gwneud y dasg i'r plentyn, ond wrth iddo fynd yn hŷn, gall rhieni annog y plentyn i wneud mwy drosto ef/hi ei hun. Mae ymolchi, defnyddio'r toiled, brwsio dannedd ac edrych ar ôl y corff yn sgiliau pwysig i blentyn ei meistroli. Caiff sgiliau gwisgo a bwyta eu trafod mewn man arall.

Pethau i'w hystyried:

  • Lefel datblygiadol eich plentyn a sicrhewch fod y dasg yn gyraeddadwy
  • Ymarferwch ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol, pan all eich plentyn gymryd ei amser a pheidio rhuthro
  • Rhowch radd i'r gweithgaredd i sicrhau llwyddiant, dechreuwch gyda'r tasgau hawdd ac yna rhowch gynnig ar y rhai mwyaf anodd
  • Byddai ymarfer yn ddyddiol yn ddefnyddiol, ac yn helpu'r plentyn i gynnal y sgil ar ôl ei ddysgu
  • Ceisiwch ei arwain gyda chwestiwn, yn hytrach na dweud wrth y plentyn beth sydd ei angen arno neu beth mae wedi ei anghofio e.e. "Sut mae'r tywydd heddiw? Beth fyddi di'n ei wisgo heddiw?" yn hytrach na "Bydd angen i ti wisgo siwmper heddiw"
  • Ceisiwch ddefnyddio siartiau gwobrwyo i gynyddu'r cymhelliant, nid oes angen i'r gwobrau fod yn bethau yr ydych yn eu prynu ond gall fod yn amser a dreulir gydag oedolyn e.e. canmoliaeth, coflaid, pobi cacen gyda rhiant, mynd i'r parc, chwarae gêm fwrdd
  • Mae nifer o blant yn cael budd o atgoffwyr gyda lluniau ar gyfer pob cam a gallwch eu troi'n bosteri wedi eu lamineiddio. Mae lluniau ar Do2Learn
  • Pan fydd wedi gorffen, dysgwch y plentyn sut mae gwirio eu cynnydd, drwy edrych mewn drych, gweld os yw'n lân a thaclus neu os yw wedi colli cam ar y ffordd

Am gyngor pellach, gweler y taflenni cyngor ar ddysgu sgiliau hunan ofal a sgiliau bywyd ar gyfer plant bach.

Sgiliau Ymolchi
Gall y gallu i ymolchi'n annibynnol roi synnwyr o gyflawniad i blentyn. Mae'n rhan o fynd yn hŷn. Os ydych yn defnyddio lluniau laminedig i helpu'r plentyn i gofio trefn y camau, yna gallwch eu rhoi ar wal yr ystafell ymolchi. Mae golchi'r gwallt yn rhan o'r broses yn aml ond efallai na fydd angen ei wneud yn ddyddiol. Os yw cam penodol yn cael ei anghofio'n rheolaidd (e.e. peidio rinsio'r gwallt yn iawn ar ôl ei olchi), gallwch ei uwcholeuo ar y rhestr wirio laminedig ar y wal. Mae mwy o gyngor manwl ar gael ar olchi gwallt ac ymolchi'n annibynnol.

Sgiliau Toiled
Hyfforddiant toiled yw pan fydd plentyn yn gallu eistedd a chodi oddi ar y toiled, defnyddio'r toiled, rheoli ei ddillad, sychu ei ben ôl, fflysio'r toiled a golchi ei ddwylo'n annibynnol. Gall hyn gymryd llawer o waith caled, amynedd ac ymarfer i feistroli pob cam. Mae'r plentyn angen bod yn barod neu byddwch yn gwastraffu eich amser ac yn achosi rhwystredigaeth. Mae mwy o gyngor manwl ar gael ar sychu'r pen ôl a  mynd i'r toiled.

Brwsio Dannedd
Dylai plant frwsio eu dannedd ddwy waith y dydd, yn y bore a'r peth olaf gyda'r nos. Gall fod yn rhan o'r drefn ddyddiol. Gellir rhoi cynnig ar ddefnyddio gwahanol frwsys a phastiau dannedd. Efallai bod ambell i blentyn yn sensitif i flas ac ansawdd past dannedd. Mae amrywiaeth o ddyfeisiau amseru ar gael i annog 2 funud o frwsio. Mae ambell i blentyn yn cael anhawster gweld siâp 3 dimensiwn y dannedd ac mae angen cymorth gyda hyn. Mae cyngor mwy manwl ar gael ar frwsio dannedd.

Gofalu am fy nghorff ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau
Wrth i blant droi yn bobl ifanc, maent yn dod yn fwy ymwybodol o'u corff yn newid a'r angen i ofalu amdano oherwydd eu hymwybyddiaeth gymdeithasol gynyddol. Gall pobl ifanc fod yn amharod i gyflawni arferion dyddiol yn annibynnol ac yn aml mae angen llawer o awgrymiadau arnynt gan eu rhieni. Dros amser, mae pobl ifanc yn dod yn fwy annibynnol. Yn aml mae gan y bobl ifanc sydd ag anawsterau sgiliau motor broblemau trefnu sy'n effeithio ar eu gallu i gyflawni arferion yn annibynnol ac efallai y bydd angen strategaethau a chymorth rhieni arnynt am gyfnod hirach na'r plentyn cyffredin. Am fwy o wybodaeth gweler mislifau, sgiliau bywyd ar gyfer pobl ifanc ac awgrymiadau ar gyfer pobl ifanc.