Neidio i'r prif gynnwy

Eistedd

Mae osgo eistedd da yn bwysig i ganiatáu i blant ymwneud â gweithgareddau wrth y bwrdd. Mae plant sydd ag anawsterau symud yn ei chael hi'n anodd eistedd yn eu hunfan a chynnal osgo eistedd da. Mae'n hanfodol darparu sylfaen sefydlog i'r plant fel bod ganddynt gefnogaeth i gynnal sefydlogrwydd wrth gwblhau tasgau fel ysgrifennu. Os yw plant yn gweithio'n galed i gynnal eu hosgo, nid ydynt yn gallu cymryd rhan yn y dasg wrth law. Efallai y byddant yn symud yn aml ac yn tarfu ar y dosbarth, ac efallai byddant yn colli'r cyfarwyddiadau. 

Pethau i fod yn wyliadwrus ohonynt:

  • Plant sy'n hongian oddi ar ochr eu cadair neu'n eistedd ar eu traed
  • Y sawl sydd yn eu crwman dros eu desgiau gyda'u pennau’n agos at y bwrdd
  • Y sawl sy'n cael trafferth aros ar eu heistedd

Beth a ddylem anelu amdano:

  • Y plentyn wedi ei osod gyda'i gliniau, pengliniau a'i draed ar ongl 90 gradd
  • Y bwrdd ar uchder y penelin, mae hyn yn caniatáu iddo eistedd yn gyffyrddus wrth ochr y bwrdd, gan ei atal rhag pwyso ymlaen neu fachu ei goesau o amgylch coesau'r gadair i gynnal sefydlogrwydd

Mae'r llun hwn yn dangos yr osgo eistedd perffaith, dyma beth y dylem anelu amdano, yn enwedig yn yr ysgol a gartref amser bwyd a wrth  wneud gwaith cartref.

Efallai y byddwch yn gweld ein taflen gyngor ar osgo ac eistedd ar gyfer ysgrifennu yn ddefnyddiol.  

Sut y gallwch helpu yn y dosbarth:

Uchder y bwrdd a maint y gadair - rhy uchel neu'n rhy isel? Gall fod yn anodd sicrhau bod gan bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth fynediad at fyrddau a chadeiriau o faint cywir, yn enwedig mewn maint dosbarthiadau mwy a ble mae ystod oedran eang mewn ystafell ddosbarth.

  • Ystyriwch osod plant o feintiau tebyg gyda'i gilydd pan fo’n bosib a chael cadeiriau a byrddau o feintiau gwahanol
  • Os yw plentyn yn ei grwman dros ei ddesg, ceisiwch ddefnyddio llethr ysgrifennu (neu ffeil 'lever arch') i annog osgo mwy unionsyth
  • Efallai y bydd plant sy'n gwingo ac yn ei chael hi'n anodd eistedd yn eu hunfan yn elwa o glustog lletem llawn aer fel y Movin'Sit 
  • Ysgogiadau llafar a gweledol: rhowch lun o 'osgo da' ar ddesg y plentyn neu rhowch awgrymiadau llafar o 'eistedd yn dda' yn ôl yr angen
  • Ystyriwch godi byrddau ar flociau, neu osod gris o dan draed y plant fel sydd angen
  • Cynigiwch egwyl symud, neu symudiadau i gynhesu cyn eistedd am gyfnod hir
  • Cynigiwch gyfle i'r plentyn wella ei sgiliau sefydlogrwydd craidd yn ystod gwersi ymarfer corff ac yn ei gartref

Mae osgo eistedd gwael yn effeithio'n fawr ar allu plentyn i roi sylw i dasgau wrth y bwrdd felly efallai y byddwch yn gweld y taflenni cyngor canlynol ar weinyddu tasgau, sylw a chanolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth ac awgrymiadau i'w hystyried wrth wneud gweithgareddau gyda phlentyn yn ddefnyddiol.