Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Cyffredinol

Gosod nod, ymarfer, llwyddiant!


Gosod Nod

Mae plant wedi'u cymell yn naturiol i chwarae gyda theganau penodol neu roi cynnig ar weithgareddau newydd, ond mae'r sawl sydd ag anawsterau cydlynu'n aml yn osgoi tasgau a gemau y maent yn eu gweld yn anodd; drwy ddefnyddio technegau osgoi a thynnu sylw megis ymddwyn fel clown y dosbarth. 

Gall gwobrwyau corfforol (tocynnau, sticeri, siocled, 5 uchel, amser ar y ffôn/iPad) a gwobrwyau llafar (canmoliaeth, anogaeth) helpu i ysgogi plentyn i gymryd rhan. Gellir lleihau'r gwobrau unwaith y bydd plentyn wedi cwblhau'r tasgau ac yn magu teimlad o lwyddiant.

I'r mwyafrif o blant, mae chwarae yn ddigon o gymhelliant a gall greu llawer o gyfleoedd i ymarfer tasgau o ddydd i ddydd wrth gael hwyl. Mae'n bwysig ystyried beth yr ydych chi (ysgol, rhieni) eisiau i'r plentyn ddysgu ynghyd â beth mae'r plentyn wedi'i gymell i'w wneud. Gall helpu plentyn i wneud rhestr o'r pethau y byddai'n hoff o allu eu gwneud yn well ei gwneud hi'n haws cytuno a gosod nodau. Gall siartiau gwobrwyo a thynnu lluniau cyn, yn ystod ac ar ôl y dasg helpu i gadw'r plentyn ar y llwybr cywir. 


Ymarfer

Mae plant sydd ag anawsterau cydlynu'n aml angen dull gwahanol o ddysgu. Ystyriwch y strategaeth M.A.T.C.H.

Meddwl am y dasg - newid y pethau sy'n rhy anodd i'r plentyn

Y peth pwysig am addasu tasg yw bod y plentyn yn dal i allu profi llwyddiant os yw'n gwneud ymdrech wirioneddol i gymryd rhan yn y gweithgaredd. Os yw'r nod yn rhy hawdd a bod y plentyn yn diflasu, os yw'r dasg yn rhy anodd gall achosi rhwystredigaeth a rhoi'r gorau iddi.

Esiampl - yn hytrach na phlentyn yn sefyll wrth wisgo, dywedwch wrtho am eistedd fel nad oes rhaid iddo weithio ar ei gydbwysedd yn ogystal â gwisgo. 

Addasu eich disgwyliadau - bod yn hyblyg a chanmol ymdrech

Gall caniatáu amser ychwanegol neu ddulliau amgen o gwblhau tasg wneud y gwahaniaeth rhwng dysgu gwers a phrofiad o fethiant ar gyfer plentyn.

Enghraifft - peidiwch â disgwyl i'ch plentyn wisgo'n annibynnol yn syth, disgwyliwch i'ch plentyn wisgo ei grys-t neu siwmper i ddechrau ac yna cynyddwch y nifer o ddillad yn raddol.

Dysgu strategaethau - newid sut yr ydych yn cyflwyno tasg/cyfarwyddiadau

Archwiliwch strategaethau addysgu amgen wedi'u dylunio ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rhannwch y dasg yn ddarnau hylaw, defnyddiwch ysgogiadau gweledol neu arweiniad llaw dros law

Enghraifft - defnyddiwch y dull cadwyno'n ôl ble mae'r oedolyn yn perfformio mwyafrif o'r dasg heblaw am y cam olaf, unwaith y bydd hyn wedi ei wneud yn hyderus, mae'r oedolyn yn gwneud llai a'r plentyn yn gwneud mwy. 

Newid yr amgylchedd - ydi hi'n rhy swnllyd neu a oes gormod i dynnu sylw yn weledol?

Ceisiwch leihau'r ffactorau amgylcheddol sy'n gwneud perfformiad yn anodd i'r plentyn.

Enghraifft - gweithiwch mewn ystafell dawel oddi wrth goridorau prysur, gosodwch y ddesg i wynebu i ffwrdd oddi wrth ffenestri a phethau sy'n tynnu sylw.

Helpwch drwy ddeall - gwrandewch a helpwch y plentyn i ddatrys y broblem

Os yw plentyn yn teimlo fel ei fod wedi ei gefnogi a'i ddeall, yna mae'n fwy tebygol o roi cynnig ar weithgareddau newydd a dal ati hyd nes ei fod wedi llwyddo

Enghraifft - gofynnwch i'r plentyn beth fyddai'n hoffi ei wneud yn well, os yw plentyn wedi ei gymell yna mae'n fwy tebygol o lwyddo.

Gellir dod o hyd i fwy o syniadau ar sut i ddefnyddio'r dechneg MATCH ar wefan CanChild.


Llwyddiant!

Ail-adrodd, ail-adrodd, ail-adrodd...

Mae nifer o blant yn cael budd o or-ddysgu symudiad neu dasg. Mae ail-adrodd tasg neu sgil yn helpu i ddatblygu llwybrau a chysylltiadau yn yr ymennydd sy'n rheoli dysgu. Gall ail-adrodd cyson helpu i wella sgiliau, cyflymder a chywirdeb.  

Trosglwyddo sgiliau...

Unwaith mae plentyn wedi datblygu ei allu i greu symudiad penodol neu wella cydlyniad motor mân yn ei fysedd, mae'n fwy tebygol o weld nifer o weithgareddau sydd wedi bod yn anodd yn y gorffennol yn haws. Er enghraifft, ar ôl gweithio ar gryfder grip pinsiwrn neu weithgareddau trin mewn llaw, efallai y bydd plentyn yn gweld bod rheoli agor a chau (botymau a sipiau) yn ogystal â'i sgiliau pensil yn haws. Gall hefyd olygu bod gan y plentyn y sgiliau sy'n ofynnol i ddysgu sgiliau eraill fel cau careiau esgidiau. 

Yma byddwch yn dod o hyd i awgrymiadau i'w hystyried wrth wneud gweithgareddau gyda phlant.