Neidio i'r prif gynnwy

Amseroedd Prydau Bwyd

Gall bwydo eich hun fod yn sgil anodd ei feistroli ac mae angen rheolaeth osgo da, sgiliau motor mân a chydlynu llygaid-llaw. Efallai y bydd ychydig o blant yn cael anhawster defnyddio cyllyll a ffyrc yn daclus.  Gydag ymarfer rheolaidd, bydd y mwyafrif o blant yn dod i arfer defnyddio cyllyll a ffyrc erbyn eu bod yn 7 mlwydd oed. Bydd llawer o blant eraill eisiau mwy o ymarfer a chymorth penodol er mwyn magu'r sgiliau hyn.

Edrychwch ar ein taflen gyngor ar ddefnyddio cyllyll a ffyrc am fwy o wybodaeth.  

Efallai y bydd ychydig o blant yn cael budd o gael offer ychwanegol i wneud amseroedd bwyd yn haws, efallai y bydd y rhain yn cynnwys cyllyll a ffyrc gyda handlenni mwy i wella'r gafaeliad a rheolaeth megis Caring Cutlery, neu hyd yn oed Dycem Non Slip Mat i helpu i sefydlogi eu plât neu eu powlen. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn pan fydd y plentyn yn dysgu sut mae llwytho llwy neu dorri gyda chyllell. 

Gall dysgu sut mae defnyddio cyfuniad o gyllyll a ffyrc fod yn anodd, ac felly cyn eu bod yn barod i ddefnyddio cyllell a fforc, mae plant angen dilyn edefyn datblygiadol a magu'r sgiliau canlynol:

Gosod: Mae'n bwysig bod plentyn yn eistedd ar gadair addas, yn ddelfrydol ar uchder ble gall ei draed gyrraedd y llawr. Gallwch osod bocs neu ris yno os nad yw hyn yn bosib. Bydd sicrhau ei fod mewn safle eistedd sefydlog yn ei gwneud yn haws i'r plentyn ddefnyddio ei ddwylo i ddefnyddio'r cyllyll a ffyrc.

Bwydo bysedd: Cynigiwch ddarnau maint cegaid ar blât neu mewn powlen, gall hyn helpu i ddatblygu sgiliau cydlynu llygaid-llaw.

Defnyddio llwy: Darparwch gyfleoedd i ddefnyddio llwy pan nad yw hi'n amser bwyd e.e. sgwpio tywod neu ddŵr yn y bath, yn drymio potiau a sosbenni, yn sgwpio bwyd sych. Unwaith y bydd y plentyn yn barod i ddefnyddio llwy amser bwyd, byddwch yn barod am lanast! Dechreuwch drwy lwytho'r llwy eich hun, ac yna pan fydd y plentyn yn barod i lwytho'r llwy ei hun, dewiswch fwyd a fydd yn glynu wrth y llwy e.e. iogwrt neu datws stwnsh. Efallai y bydd powlen gydag ochrau uwch hefyd yn helpu gyda sgwpio a llwytho. Ceisiwch aros eich tro gyda'r sgwpio fel nad yw'r plentyn yn mynd yn rhwystredig, yn enwedig os yw'n llwglyd. Gall arweiniad llaw dros law helpu i berffeithio sgiliau a chaniatáu digon o amser i ymarfer.  

Defnyddio fforc: Caniatewch i'r plentyn ymarfer wrth drywanu bwyd gyda'r fforc, ceisiwch ddefnyddio powlen cyn symud ymlaen i blât. Efallai y bydd arweiniad llaw dros law o gymorth. 

Dysgu sut mae defnyddio cyllell: Dechreuwch drwy ddefnyddio cyllell blastig yn gyffredinol e.e. torri bwyd plastig, torri clai. Unwaith y bydd wedi meistroli gwthio'r gyllell i lawr, gadewch i'r plentyn roi cynnig ar dorri bwydydd meddal megis banana. Yna, gallwch symud ymlaen i ddysgu'r symudiad llifio sydd ei angen i dorri drwy fwydydd mwy caled megis cig. Ceisiwch beidio â gadael i'r plentyn roi'r cyllyll a ffyrc i lawr, os yw ei ddwylo'n rhydd bydd yn fwy tebygol o ddychwelyd yn ôl i godi'r bwyd gyda'i ddwylo! Eto, gall arweiniad llaw dros law ei helpu i deimlo'r symudiad llifio. 

Mae defnyddio cyllell a fforc gyda'i gilydd yn gofyn i'r plentyn ddefnyddio ei ddwylo gyda'i gilydd mewn modd cydgysylltiedig, rhywbeth y mae llawer o blant yn ei gweld hi'n anodd. Mae'r gweithgareddau canlynol yn defnyddio rhai o'r un sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer defnyddio cyllyll a ffyrc. Bydd y gweithgareddau'n rhoi cyfle i'r plentyn ymarfer y sgiliau pan nad yw hi'n amser bwyd. 

  • Defnyddio padell a brws llwch - cadw'r badell lwch yn llonydd a symud y brws. Efallai y bydd eich plentyn wedi ei ddenu i symud y ddau gyda'i gilydd ar yr un pryd
  • Defnyddio sisyrnau - dechreuwch gyda phatrymau hawdd a chynyddu i wneud dyluniadau mwy cymhleth
  • Defnyddiwch glai - ymarfer drwy ddefnyddio cyllyll a ffyrc. Rhowch gynnig gyda gwahanol gryfder o ran ansawdd
  • Coginio/pobi - gafaelwch mewn powlen wrth gymysgu gyda llwy neu lwytho'r gymysgedd allan o'r bowlen         
  • Lliwio - sicrhewch y gafaelir yn y papur gydag un llaw wrth i'r law arall liwio
  • Agor poteli a jariau sydd a chaead sgriw
  • Gemau adeiladu - e.e. meccano, Knex a Lego

Fideos ar-lein i helpu gyda defnyddio cyllyll a ffyrc:
Sut i ddefnyddio'r Caring Cutlery