Neidio i'r prif gynnwy

Cyfleusterau'r Llyfrgell

 

Mae'r tair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleusterau. Mae pob un yn llawn adnoddau ac yn cynnwys cyfleusterau modern.

 

“Llefydd cyfforddus i ddysgu ac astudio"

 

Mae staff y llyfrgell ar gael ym mhob lleoliad i'ch helpu chi i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw i gyd.

 

Cyfleusterau Cyfrifiadurol 

Mae nifer dda o gyfrifiaduron ym mhob llyfrgell. Mae pob un yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ar gyfer staff BIPBC ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae mynediad diwifr i'r rhyngrwyd (WiFiSPARK) bellach ar gael hefyd gan ddefnyddio'ch dyfais bersonol eich hun.

Gellir cyrchu amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys y rhyngrwyd ac e-bost (yn ddarostyngedig i brotocolau BIPBC), cymwysiadau Microsoft Office, E-Lyfrgell Iechyd GIG CymruSPSS a’r meddalwedd cyfeirio Endnote.

 

Cyfleusterau Hyfforddi 

Ymhob llyfrgell mae cyfleusterau hyfforddi TG ar wahân. 

Mae cyfrifiaduron / gliniaduron, siartiau fflip, a thaflunyddion ym mhob ystafell.

Mae staff y llyfrgell yn delio gydag archebu cyfleusterau. Am argaeledd ystafelloedd, cysylltwch â'r llyfrgelloedd unigol.

Fel arall, cyfeiriwch at bolisi ystafelloedd hyfforddi'r Gwasanaeth Llyfrgell am delerau / amodau defnyddio a gwybodaeth bellach.

 

Cyfleusterau Astudio 

Er mwyn darparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu mae pob llyfrgell yn darparu ystod o amgylcheddau astudio - ystafelloedd ar wahân ar gyfer astudio unigol a gofodau astudio tawel.

 

Cyfleusterau i'r Anabl

Mae pob llyfrgell wedi ymrwymo i ddarparu mynediad cyfartal at gyfleusterau i holl aelodau'r llyfrgell.

Rydym yn cynnig cefnogaeth benodol i ddefnyddwyr anabl wrth ddefnyddio cyfleusterau llyfrgelloedd - lifft i gael mynediad ar bob safle, digon o le i gadeiriau olwyn symud, cymorth un i un i nôl eitemau ac addasu gosodiadau cyfrifiadurol, gwasanaeth Dyslecsia a mynediad toiled i'r anabl.

 

Cyfleusterau Argraffu a Chopïo 

Mae pob llyfrgell yn cynnig cyfleusterau argraffu / llungopïo a sganio du / gwyn a lliw 24/7 (yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Hawlfraint).

I gael gwybodaeth am ffioedd, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.

Dim ond yn ystod oriau staffio y mae cyfleusterau rhwymo a lamineiddio ar gael.

 
Cyfleusterau Lluniaeth 

Mae lluniaeth wrth law ger pob llyfrgell. 

Mae digon o lefydd rhesymol yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd, byrbrydau ysgafn neu brydau poeth.