Neidio i'r prif gynnwy

Atal Cenhedlu

Nod atal cenhedlu yw atal beichiogrwydd ac mae am ddim i bobl yn y DU. Gallwch gael mynediad at atal cenhedlu am ddim gan eich Meddyg Teulu neu glinigau arbenigol yn BIPBC. Gellir hefyd prynu condomau mewn fferyllfeydd, archfarchnadoedd ac ar-lein. Gyda nifer o ddulliau i ddewis ohonynt, gallwch ddod o hyd i un sy'n gweddu orau i chi. Mae gwybodaeth ar y wefan Contraception Choices i’ch helpu chi benderfynu.

Mae dulliau rhwystro, megis condomau yn ffurf o atal cenhedlu sy’n helpu i’ch diogelu yn erbyn heintiau a dosglwyddir yn rhywiol (STIs) a beichiogrwydd. Dylech ddefnyddio condomau i ddiogelu eich iechyd rhyw eich hunain a iechyd rhyw eich partner, waeth pa ddull atal cenhedlu arall rydych yn ei ddefnyddio i atal beichiogrwydd.

Atal Cenhedlu

Canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer defnyddio coiliau:

Ym mis Mawrth 2023, newidiodd canllawiau’r Gyfadran ar gyfer Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol (FSRH) ar gyfer defnyddio’r 52mg LNG-UID (Mirena, Benilexa a Levosert).

Gall unrhyw 52mg LNG-UID sydd wedi’i fewnosod cyn bod yr unigolyn yn 45 oed ei ddefnyddio fel dull atal cenhedlu am 6 blynedd, cyn hynny dim ond am 5 mlynedd y defnyddiwyd Mirena. 
Bellach, mae trwydded Mirena wedi’i hymestyn i 8 mlynedd ar gyfer atal cenhedlu.

Gall unrhyw 52mg LNG-IUD ei ddefnyddio am 5 mlynedd fel amddiffyniad endometriaidd fel rhan o therapi adfer hormonau (HRT), cyn hynny dim ond Mirena a ddefnyddiwyd.

Gwyliwch y fideo hwn cyn dod i'r clinig i gael gosod coil:

Gwyliwch y fideo hwn cyn dod i'r clinig i gael gosod mewnblaniad:

Dulliau eraill:

Os ydych yn cael meigryn ffocal gydag awra, ni fydd dulliau atal cenhedlu sy’n cynnwys oestrogen yn addas i chi. 

Lleoliad Clinig

Mae gennym glinigau mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws Gogledd Cymru. Am fwy o fanylion am y clinigau a'u horiau agor, dewiswch yr ardal yr hoffech gael eich gweld:

Gwefannau ac adnoddau defnyddiol