Gall bywyd fod yn anodd ac yn straen yn dilyn marwolaeth rhywun agos. Bydd nifer o bethau ymarferol o bosibl angen eu gwneud mewn cyfnod byr o amser. Bydd raid i chi hefyd ymdopi gyda theimladau o golled a newid a ddaw yn sgil galar.
Pwy ydyn ni
Lleolir Gwasanaethau Profedigaeth yn y tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Mae ein staff yma i gynnig gwybodaeth bellach, cyngor a chymorth.
Yr hyn rydym yn ei wneud
Cefnogaeth mewn Profedigaeth
Rydym hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth yn dilyn eich profedigaeth gyda gwybodaeth am alar a cholled.
Sut i gysylltu â ni
Mae’r Swyddfeydd Profedigaeth ar agor 10am – 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am Wyliau Banc).
Ysbyty Glan Clwyd - 01745 534 147
Ysbyty Gwynedd - 01248 384 384 ext: 5982