Neidio i'r prif gynnwy

Arweiniad Allweddol

Mae'r dystiolaeth a'r canllawiau ynghylch rheoli poen parhaus yn helaeth ac yn esblygu. Y canfyddiadau a'r argymhelliad cyson yw bod unigolion sy'n byw â phoen cronig a gwasanaethau yn symud i ffwrdd oddi wrth asesiadau ac ymyriadau wedi eu cynnal gan un gweithiwr proffesiynol yn unig, ac i ffwrdd o ymchwiliadau meddygol megis sganiau ac ymyriadau meddygol yn sefyll ar eu pen eu hunain, tuag at agwedd holistaidd amlddisgyblaethol i asesu a rheoli poen barhaus. Mae tystiolaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarpariaeth asesu cynharach ac ymyrraeth a chefnogi unigolion i reoli eu poen drostynt eu hunain. Mae arweiniad yn argymell darpariaeth pecynnau gofal cynhwysfawr, i gynnwys addysg unigol neu grŵp, adsefydlu ffisegol ac ymyriadau seicolegol, gydag ymyriadau meddygol a meddyginiaethau yn ffurfio rhan o'r cynllun gofal os bernir bod hyn yn briodol.

Mae clinigwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau rheoli poen yn defnyddio ystod o arweiniad a thystiolaeth, yn ogystal â gwybodaeth a gesglir o asesiad unigol a dymuniadau'r claf, i ddatblygu cynllun gofal. Mae dolenni ar gyfer nifer o ddogfennau arweiniad allweddol wedi eu darparu isod.  Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o ganllawiau yn ymwneud â chyflyrau penodol,  lle mae poen yn symptom, heb gael eu cynnwys isod. Os hoffech wybodaeth bellach cysylltwch â'r gwasanaeth neu gofynnwch a byddem yn hapus i'ch cyfeirio at y rhain.