Neidio i'r prif gynnwy

Beth i ddisgwyl gan wasanaethau poen

Mae'r tîm rheoli poen yn wasanaeth amlddisgyblaethol. Golyga hyn fod nifer o wahanol broffesiynau, Meddygon Anesthetig, Ffisiotherapyddion, Seicolegwyr Clinigol, Nyrsys a Therapyddion Galwedigaethol, yn gweithio gyda'i gilydd fel Tîm.

Mae ein gwasanaeth yn anelu at helpu’r rheiny gyda phoen barhaus i fyw'r bywyd gorau posibl.

Sut i gael mynediad at ein gwasanaeth:

Gallwch gael eich cyfeirio at ein gwasanaeth gan eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.

Beth i'w ddisgwyl unwaith i chi gael eich cyfeirio:

Unwaith yr ydych wedi cael eich cyfeirio atom, fe anfonir llythyr neu fideo a holiadur atoch. Bydd angen i chi ddarllen y wybodaeth neu wylio'r fideo gan y bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o beth i'w ddisgwyl gan ein gwasanaeth. Yna bydd angen i chi optio i mewn a chwblhau a dychwelyd yr holiadur. Bydd hyn yn ein helpu i ganfod rhagor am eich poen, yr effaith y mae yn ei gael ar eich bywyd a beth yr ydych yn gobeithio ei ennill o ymgysylltu â'n gwasanaeth rheoli poen. Unwaith yr ydych wedi cwblhau'r pecyn holiadur hwn a'i anfon yn ôl atom, fe'ch rhoir ar y rhestr aros am apwyntiad cychwynnol.

Asesiad cychwynnol:

Pan fydd apwyntiad ar gael, gofynnir i chi fynychu asesiad cychwynnol gyda hyd at dri aelod o'n tîm. Bydd yr apwyntiad hwn yn cwmpasu dealltwriaeth o sut y dechreuodd eich poen, yr effaith y mae yn ei gael ar eich bywyd, ffyrdd yr ydych wedi eu canfod o ymdopi, beth sy'n bwysig i chi a sut yr hoffech i'ch bywyd fod petai'r boen yn cael llai o effaith ar eich bywyd. Erbyn diwedd yr asesiad fe fyddwn, gobeithio, wedi datblygu cynllun a rennir yn dibynnu ar eich anghenion a'r hyn a ddywed y dystiolaeth ynghylch rheoli eich poen wrthym. Gall hyn gynnwys cael cynnig ymyriadau pellach o fewn ein gwasanaeth neu gall olygu y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arall neu yn ôl at eich meddyg teulu.

Ymyriadau Pellach:

Os teimlir y byddech yn elwa o ymyriadau o fewn ein gwasanaeth, mae amrywiol opsiynau ar gael. Gall hyn gynnwys sesiynau addysgol unigol neu grŵp, ymyriadau seicolegol, ffisiotherapi, ymyriadau meddygol ac optimeiddio meddyginiaethau. Fe all y rhain gael eu cynnig wyneb i wyneb neu'n rhithiol dros y ffôn neu drwy ymgynghoriad fideo. Mae dysgu mwy am eich poen a datblygu sgiliau hunanreoli yn ffurfio cydran allweddol o'r hyn a gynigwn. Mae eich ymroddiad a'ch parodrwydd i ymgysylltu â phecyn gofal cyfan yn bwysig. Mae cyfranogwyr blaenorol yn dweud wrthym fod dod at y triniaethau hyn gyda meddwl agored a pharodrwydd i ddysgu ffyrdd newydd yn gallu bod o wir gymorth.

Cliciwch ar gyfer dogfennau arweiniad allweddol a gwybodaeth am gyflwr penodol.