Gall llawer o bethau effeithio ar deimladau plentyn neu bobl ifanc, er enghraifft:
Awgrymiadau gwych:
Strategaethau a all helpu:
Cysylltu emosiynau â sefyllfaoedd – mae'n hawdd rhagdybio bod eich plentyn yn deall sut y maent yn teimlo a pham, ond efallai na fydd hynny'n wir bob amser. Gall helpu eich plentyn i gysylltu eu hemosiynau â sefyllfaoedd a phrofiadau cyffredin eu helpu i gysylltu'r geiriau y byddwch yn eu defnyddio â'r teimladau y byddant yn eu profi, e.e. "Mae'n amlwg dy fod ti'n hapus iawn am hynny...", "Rwy'n gwybod dy fod ti'n teimlo'n flin oherwydd...".
Mae'r raddfa 5 pwynt yn ddull gweledol o ganfod i ba raddau y gall eich plentyn adnabod eu teimladau a'r pethau sy'n effeithio ar eu teimladau yn feunyddiol. Mae hyn yn golygu cychwyn mapio sefyllfaoedd ar y raddfa o 1 i 5; mae 1 yn gyfystyr â'r pethau y bydd eich plentyn yn eu mwynhau ac yn gwneud iddynt deimlo'n ddiogel neu'n ddigynnwrf, ac mae 5 yn gyfystyr â phethau sy'n achosi 'chwalfa' i'ch plentyn ac yn gwneud iddynt deimlo'n hynod o flin neu'n ofidus. Bydd y profiad o wneud hyn yn wahanol i bob unigolyn. Efallai bydd rhai pobl yn deall beth sy'n achosi teimladau penodol iddynt, ac efallai bydd ar eraill angen cryn dipyn o gymorth i geisio mynd ati i ddeall hyn. Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth sylfaenol o'r prif emosiynau, sef hapusrwydd, tristwch, dicter a phryder, cyn mynd ati i ddefnyddio'r raddfa 5 pwynt.
Mae stribedi comig yn adnodd gweledol gwych y gellir eu defnyddio i gynorthwyo person ifanc i ddeall sut oeddent yn teimlo a sut y gallai'r bobl eraill oedd yn rhan o'r rhyngweithio fod wedi teimlo hefyd. Gall defnyddio pobl coesau matsis, swigod sgwrsio a swigod meddwl fod yn ddulliau defnyddiol dros ben i sicrhau bod y broses o drafod teimladau yn symlach ac yn haws.
Mae 'Teimlomedrau' (Feelometers) yn adnoddau gweledol gwych i helpu i ddangos ac egluro y gall teimladau gynyddu ac y gallant leihau hefyd. Gall 'graddio' emosiwn fod yn anodd i lawer o bobl ifanc, oherwydd efallai fod eu profiad o deimlo emosiwn yn fwy 'du a gwyn'. Er enghraifft, efallai y byddant yn teimlo'n iawn ond yn dod yn ofidus neu'n ddig iawn yn gyflym, heb ddeall sut ddigwyddodd hynny. Yn yr un modd, efallai byddant yn teimlo'n ofidus ond yn teimlo'n iawn unwaith eto ymhen dim, ac ar brydiau, gall hynny beri synod i'r sawl sydd o'u cwmpas.
Trafod teimladau
Os na fyddwch yn gwybod sut byddwch yn teimlo a pham, gall defnyddio geiriau i geisio egluro hyn ymddangos yn dasg amhosibl i rai pobl ifanc, ac yn aml iawn, gall hynny achosi rhagor o rwystredigaeth a gofid.
Hyd yn oed os byddwch yn deall eich teimladau, gall egluro hyn gan ddefnyddio geiriau fod yn anodd iawn, ni waeth pa mor huawdl y byddwch chi mewn sefyllfaoedd eraill. Mae nifer o resymau am hyn:
Bydd ffactorau eraill, megis proffil iaith a dysgu person ifanc, hefyd yn cyfrannu at hyn.
Awgrymiadau gwych:
Strategaethau a all helpu:
Gall 'teimlomedrau' (feelometers) fod yn ffordd dda o ganfod sut bydd person ifanc yn dehongli ystyron geiriau amrywiol i gyfleu teimladau, e.e. ar raddfa o 1 i 10, ag 1 yn golygu 'iawn' a 10 yn golygu 'cynddeiriog', efallai bydd person ifanc yn defnyddio'r gair 'rhwystredig' ond yn golygu "Dwi'n ddig dros ben".
Mae datblygu cyd-ddealltwriaeth o'r geiriau y bydd y person ifanc yn eu defnyddio i gyfleu eu teimladau yn bwysig iawn, fel y byddwch yn gwybod beth yw'r ystyr y byddant yn ei gyfleu a dehongli eu dull o gyfathrebu yn gywir.
Nodwch y geiriau y byddant yn eu defnyddio a mapiwch nhw ar 'deimlomedr' fel y gallwch ddeall beth yw ystyr y geiriau hynny iddynt.
Ceir dulliau eraill mwy gweledol o gyfleu sut neu beth y bydd person ifanc yn ei deimlo sydd ddim yn dibynnu'n llwyr ar eiriau:
Nid oes yn rhaid i hynny ddigwydd ar lafar – weithiau, efallai bydd person ifanc yn gallu cyfleu eu teimladau ar bapur heb allu esbonio hynny wyneb yn wyneb wrthych chi. Ceir nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i gynorthwyo eich person ifanc i wneud hynny, yn dibynnu ar eu hoedran. Er enghraifft:
Llyfr pryderon y gallant ei ddefnyddio i nodi pethau sydd wedi digwydd yn ystod y dydd sydd wedi peri gofid iddynt, y gallwch ddarllen amdanynt a'u trafod â'r person ifanc.
Gallent anfon neges testun atoch chi i gyfleu eu teimladau neu ddefnyddio'r ap nodiadau ar eu ffôn.
Dim ond ychydig o syniadau yw'r rhain; bydd angen i chi ganfod beth sy'n fwyaf llwyddiannus i'ch person ifanc.
Defnyddiwch stribedi comig fel dull gweledol o ddehongli teimladau mewn sefyllfaoedd penodol. Weithiau, bydd hyn yn haws i bobl ifanc sydd â phroffiliau Niwroddatbygiadol, oherwydd ceir llai o bwyslais ar sgwrs wyneb yn wyneb (a all olygu mwy o bwysau o ran cyfathrebu i'r person ifanc) a mwy o bwyslais ar symleiddio cyfathrebu ar bapaur. Bydd hynny hefyd yn eich galluogi i amlygu y gall pobl ar brydiau ddweud rhywbeth sydd fel pe bai'n cyfleu un emosiwn penodol er eu bod yn teimlo neu'n meddwl am emosiwn gwahanol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn o ran datblygu dirnadaeth y person ifanc o'u dull o gyfathrebu a'r rhesymau pam, e.e., "Roedd hi'n rhy swnllyd yno ac roeddet ti'n dymuno mynd allan, felly fe wnest ti weiddi". Ar ôl sicrhau cyd-ddealltwriaeth, gallwch ddefnyddio'r sylfaen honno i ddatblygu'r defnydd o strategaethau eraill y gellir eu defnyddio y tro nesaf, e.e., "Y tro nesaf y bydd pethau'n mynd yn rhy swnllyd wrth y bwrdd, gelli di adael a mynd i'r lolfa am 5 munud".