Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein Gwasanaethau Niwroddatblygiadol yn cynnig asesiad arbenigol i blant a phobl ifanc y mae'n bosibl bod ganddynt gyflwr niwroddatblygiadol. Mae'r broses asesu'n cael ei chreu gan ddilyn y Canllawiau NICE. Bydd yr asesiad yn edrych ar holl gryfderau ac anghenion eich plentyn er mwyn creu proffil angen. Gall y proffil hwn fod yn ddefnyddiol i riant, gofalwr neu warcheidwad i ddeall pa gymorth a strategaethau a allai weithio orau i’r plentyn.

Mae'r broses asesu hon ar gyfer plant dros 5 oed. Rydym yn asesu plant 0-5 oed yn wahanol a byddem yn eich cynghori i siarad â'ch Ymwelydd Iechyd am ragor o wybodaeth. 

Beth yw cynnwys y broses asesu? 

Er mwyn cwblhau ein hasesiadau, mae angen i ni gael llawer o wybodaeth am eich plentyn i ddeall sut mae'n ymddwyn, yn meddwl ac yn teimlo, gartref ac yn yr ysgol, neu mewn lleoliadau eraill. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn golygu bod angen i ni siarad ag ysgol/lleoliad addysgol eich plentyn a byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud hynny. Os nad yw eich plentyn mewn lleoliad addysgol ar hyn o bryd, ac yn cael ei addysgu gartref er enghraifft, gallwn weithio gyda chi i ystyried lleoliadau posibl eraill y gellir eu defnyddio i gynnal yr asesiad. Gall hyn fod yn lleoliad addysgol blaenorol, meithrinfa neu warchodwr plant, neu/a grŵp neu glwb y mae eich plentyn yn ei fynychu’n rheolaidd.

Mae ein hasesiadau fel arfer yn cynnwys y canlynol: