Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Pontio

Mae gofal pontio ar gael ar y wardiau ôl-eni ym mhob un o'r tri ysbyty yng ngogledd Cymru. Nod gofal pontio yw sicrhau bod y fam a'r baban yn cael aros gyda'i gilydd a fydd yn eu helpu i feithrin perthynas ac yn eu helpu wrth fwydo.

Bydd bydwraig yn gofalu amdanoch chi, gyda chymorth gweithwyr cymorth bydwreigiaeth a gweithwyr cymorth gofal iechyd.  Bydd eich baban hefyd yn cael ei weld gan dimau meddygol a nyrsio babanod y newydd-anedig.  Byddwn yn cynllunio gofal eich baban gyda chi a byddwn yn eich annog i gymryd rôl weithgar o ran gofal eich baban.  Bydd eich baban yn cael ei adolygu ddwywaith y dydd gan nyrs y newydd-anedig ac unwaith y dydd gan feddyg y newydd-anedig.  Gall adolygiadau ychwanegol o'ch baban gael eu cynnal os byddwch chi neu'ch tîm bydwreigiaeth yn pryderu am eich baban.

Er mwyn cael mynd adref, mae angen i'ch baban:

  • Gymryd ei holl ymborth trwy'r geg (neu fod â chynllun ar waith i roi ymborth trwy diwb rhwng y trwyn a'r stumog, ac yn yr achos hwnnw, bydd y tîm nyrsio allgymorth y newydd-anedig yn gyfrifol am eich gofal)
  • Cynnal ei dymheredd mewn crud arferol

 phwysau diogel i gael ei ryddhau (os oedd eich baban yn fach iawn ar adeg ei eni, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn ei fod yn magu pwysau cyn ein bod yn fodlon iddo fynd adref)