Mae gofal pontio ar gael ar y wardiau ôl-eni ym mhob un o'r tri ysbyty yng ngogledd Cymru. Nod gofal pontio yw sicrhau bod y fam a'r baban yn cael aros gyda'i gilydd a fydd yn eu helpu i feithrin perthynas ac yn eu helpu wrth fwydo.
Bydd bydwraig yn gofalu amdanoch chi, gyda chymorth gweithwyr cymorth bydwreigiaeth a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Bydd eich baban hefyd yn cael ei weld gan dimau meddygol a nyrsio babanod y newydd-anedig. Byddwn yn cynllunio gofal eich baban gyda chi a byddwn yn eich annog i gymryd rôl weithgar o ran gofal eich baban. Bydd eich baban yn cael ei adolygu ddwywaith y dydd gan nyrs y newydd-anedig ac unwaith y dydd gan feddyg y newydd-anedig. Gall adolygiadau ychwanegol o'ch baban gael eu cynnal os byddwch chi neu'ch tîm bydwreigiaeth yn pryderu am eich baban.
Er mwyn cael mynd adref, mae angen i'ch baban:
 phwysau diogel i gael ei ryddhau (os oedd eich baban yn fach iawn ar adeg ei eni, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn ei fod yn magu pwysau cyn ein bod yn fodlon iddo fynd adref)