Neidio i'r prif gynnwy

Grwpiau Cymorth

Gall canfod normal ‘newydd’ ar ôl colli babi deimlo’n ofnus ac unig. Gall troi at ffrindiau a theulu fod yn anodd gan efallai na allan nhw ddeall yr hyn rydych yn ei deimlo neu sut i siarad â chi. Mae llawer o grwpiau ac elusennau yn cynnig cymorth i rieni a’u teuluoedd mewn profedigaeth.

Mae’r grwpiau canlynol yn ddetholiad bychan yn unig o’r gymuned colli babi y gallech eu gweld yn ddefnyddiol yn ystod yr amser hwn. Mae pob grŵp yn cynnig dealltwriaeth ac arweiniad ar gyfer delio â’r normal newydd hwn: 

SANDS
Sands | Supporting bereaved families – Sands yw’r elusen sy’n arwain ar farw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol yn y DU. Mae SANDS yn darparu gwasanaethau cymorth profedigaeth i rieni a gweithwyr iechyd proffesiynol.

4Louis
4Louis – Elusen y DU yn cynorthwyo unrhyw un a effeithwyd gan gamesgoriad, marw-enedigaeth neu farwolaeth plentyn.

The Miscarriage Association
The Miscarriage Association – Yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a effeithwyd gan golled beichiogrwydd drwy linell gymorth, cysylltiadau ffôn gwirfoddol, grwpiau cymorth lleol a gwefannau.

Tommys
Tommy's – Yn darparu ymchwil i gamesgoriad, marw-enedigaeth a genedigaeth gynamserol. Mae Tommy's yn cynnig gwybodaeth iechyd am feichiogrwydd i rieni.

Little Things and Co. 
Little Things & Co. – Elusen brofedigaeth sy’n cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rheiny sydd wedi dioddef colli babi.

Our Sam
Our Sam – Cefnogaeth i unrhyw un a effeithwyd gan golli babi yn dilyn camesgoriad, marw-enedigaeth, terfynu am resymau meddygol neu farwolaeth newyddenedigol.

Aching Arms UK
Aching Arms – Elusen brofedigaeth yn cynnig cysur i rieni sy’n profi colli babi drwy ddarpariaeth tedis a rhwydweithiau cymorth.

Child Bereavement UK
Child Bereavement UK – Yn cefnogi teuluoedd ac yn addysgu gweithwyr proffesiynol pan fo babi neu blentyn o unrhyw oed wedi marw neu’n marw neu pan mae plentyn yn wynebu profedigaeth.

Antenatal Results and Choices (ARC)
Antenatal Results and Choices (ARC) – Yn cynnig gwybodaeth ddiduedd a chymorth i rieni sy’n disgwyl ac yn wynebu penderfyniadau ynghylch profion a chanlyniadau cyn-geni.

Sibling Support
Sibling Support – Elusen wedi ei chynllunio gan frawd a chwaer i frodyr a chwiorydd – mae’r elusen hon yn cynnig cymorth, adnoddau a chwnsela i frodyr a chwiorydd sydd wedi profi colli brawd neu chwaer.