Neidio i'r prif gynnwy

Colli Babi a'r Gwasanaeth Profedigaeth

Rydym yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i deuluoedd sy’n profi colli eu babi.  

 Tîm Profedigaeth Snowdrop

Mae ein tîm Profedigaeth Snowdrop yn dîm arbenigol o fydwragedd sy’n cynnig cymorth profedigaeth i rieni a theuluoedd sydd wedi profi colled yn ystod beichiogrwydd neu golli babi yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn rhoi cymorth i deuluoedd sydd wedi profi colled yn ystod pob cyfnod o feichiogrwydd ac yn gallu rhoi cymorth ar gyfer colledion babanod hyd at 28 niwrnod ar ôl genedigaeth

Sut gall ein tîm eich cynorthwyo chi

Tra rydych yn yr ysbyty, byddwch yn cwrdd ag aelod o’n tîm Profedigaeth Snowdrop  a fydd yn parhau i’ch cynorthwyo a’ch arwain chi a’ch teulu yn ystod yr amser anodd hwn.

Er nad yw ein tîm yn gwnselwyr, byddwn yn cynnig lle diogel i siarad drwy eich galar a realiti bywyd ar ôl eich colled. Rydym yn cynnig y cymorth canlynol: 

  • Cyswllt rheolaidd gyda chi a’ch teulu. Rydym yn cynnig cymorth yn yr ysbyty a lleoliadau yn y gymuned, yn darparu ymweliadau cartref a chyswllt ffôn i gwrdd ag anghenion unigol pob teulu.
  • Cymorth emosiynol, cynllunio geni a chreu atgofion. 
  • Arweiniad ar drefniadau angladd a chymorth gyda dogfennau cyfreithiol.  
  • Byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar unrhyw brosesau ymchwilio a chanlyniadau i chi.
  • Rydym hefyd yn rhoi cymorth drwy argymell a’ch cyfeirio chi at wasanaethau ac elusennau cymorth cwnsela allanol eraill megis Tŷ Gobaith, CRUSE Gogledd Cymru, 2 Wish upon a Star a mwy. 

Mae’r tîm Snowdrop ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Rhoddir manylion cyswllt i chi ar gyfer ein tîm Snowdrop yn ystod eich amser yn yr ysbyty.  

Gwybodaeth pan fo ei hangen

Rydym yn eich annog chi a’ch teulu i gwrdd â’n bydwragedd profedigaeth ar y cyfle cyntaf fel y gallwn ddechrau eich cynorthwyo chi drwy’r amser anodd hwn. Deallwn y gall colled fod yn llethol ac efallai na fyddwch yn barod am yr holl wybodaeth ar hyn o bryd. Os ydych chi a’ch teulu yn penderfynu nad ydych yn barod i dderbyn cymorth gan ein bydwragedd profedigaeth, byddwch yn cael ein manylion i gysylltu â ni ar ddyddiad diweddarach os ydych yn newid eich meddwl, neu angen unrhyw wybodaeth ychwanegol.