Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau

Y cam cyntaf i gael yr help sydd ei angen arnoch yw sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol a siarad â rhywun amdano. Os ydych chi'n poeni am eich defnydd o gyffur neu alcohol neu ddefnydd ffrind neu rywun annwyl i chi, lle da i ddechrau yw cysylltu gyda DAN 24/7 sy'n Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol i Gymru neu siaradwch â'ch Meddyg Teulu.

Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau (SMS)

Mae ein Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn darparu cymorth cyfrinachol, anfeirniadol, proffesiynol a hygyrch sy'n anelu at leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau ac alcohol i unigolion, teuluoedd a'r gymuned leol. 

Mae ein timoedd amlasiantaeth o weithwyr proffesiynol a medrus yn gweithio'n uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr, ble bo hynny'n briodol, gan ddarparu mynediad at y gwasanaethau mwyaf priodol i  fodloni eu hanghenion ac sy'n adlewyrchu eu dewisiadau yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt. Wrth weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o wahanol sefydliadau, gallwn fynd i'r afael â'r anawsterau gyda thai, pryderon lles ac ariannol yn ogystal â helpu defnyddwyr y gwasanaeth i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant, gwirfoddoli ac addysg.

Dim ond i bobl 18 oed a hŷn y gallwn ddarparu cyngor a chefnogaeth. Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau cyfrinachol yn cynnwys:

  • Asesiad Defnyddiwr Gwasanaeth a'r Gofalwr
  • Gwasanaeth Lleihau Niwed
  • Gwybodaeth a chyngor ar opsiynau triniaeth a datblygu Cynllun Gofal ar y cyd.
  • Cefnogaeth a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Mewnbwn therapiwtig gan gynnwys Ymyriadau Seicolegol
  • Rhagnodi Dirprwyol
  • Dadwenwyno cleifion mewnol a'r gymuned
  • Asesiad a chefnogaeth i gael mynediad at driniaeth adferiad preswyl
  • Cyfeiriadau at asiantaethau eraill
  • Profion a thriniaeth ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed
  • Darpariaeth Nodwyddau a Chwistrellwyr
  • Gwasanaeth Bydwreigiaeth Arbenigol

Sut i fanteisio ar gymorth gan ein Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Mae’r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau yn gweithredu ar system gyfeirio agored.  Mae hyn yn golygu y gallwch gysylltu â'n gwasanaethau'n uniongyrchol i gael  asesiad cychwynnol, cyngor a chefnogaeth.  Mae manylion cyswllt y gwasanaethau isod.

Fel arall, gallwch gael eich cyfeirio at ein gwasanaethau gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd sy'n eich cefnogi gan gynnwys eich Meddyg Teulu.

Yn dilyn asesiad, gallwn awgrymu'r gwasanaeth a'r gefnogaeth orau i fodloni eich anghenion.

Manylion cyswllt ar gyfer ein Clinigau Cymunedol Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Mae Clinigau Cymuned wedi'u lleoli ar draws Gogledd Cymru, ar agor 9am tan 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (heblaw gwyliau banc):

Wrecsam

Cyfeiriad Clinig: The Elms, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1EB 
Rhif cyswllt: 03000 859 444
E-bost: BCU.smswrexham@wales.nhs.uk

Sir y Fflint

Cyfeiriad Clinig: Canolfan Cwnsela Glannau Dyfrdwy, Rhodfa Rowley, Shotton, Glannau Dyfrydwy, CH5 1PU
Rhif cyswllt: 03000 859 444
E-bost: BCU.smswrexham@wales.nhs.uk

Sir Ddinbych

Cyfeiriad Clinig: Canolfan Cwnsela Glannau Dyfrdwy, Rhodfa Rowley, Shotton, Glannau Dyfrydwy, CH5 1PU
Rhif cyswllt: 03000 859 444
E-bost: BCU.smswrexham@wales.nhs.uk

Conwy

Cyfeiriad Clinig: The Dawn Centre, 35-37 Princes Drive, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PD
Rhif cyswllt: 01492 523 681
E-bost: BCU.smsconwy@wales.nhs.uk

Gwynedd

Cyfeiriad Clinig: Bron Castell, Rhes Segontiwm, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2PH
Rhif cyswllt: 03000 853 333
E-bost: BCU.smsgwynedd@wales.nhs.uk

Ynys Môn

Cyfeiriad Clinig: Clinig Isgraig, Lôn Newydd, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7PS
Rhif cyswllt: 03000 853 355
E-bost: BCU.smsanglesey@wales.nhs.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â'r rhif ffôn isod a gofynnwch am ysgrifennydd y Meddyg Ymgynghorol neu’r Arbenigwr Cyswllt yn eich ardal: