Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Critigol

Mae gan y Bwrdd Iechyd 3 Uned Gofal Critigol, yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Gall bob un o’r tair uned drin cleifion critigol wael, ar beiriannau awyru gyda methiant ar sawl un o’r organau. Gallwn gynyddu nifer y gwelyau am gyfnodau byr yn ystod digwyddiadau mawr neu epidemig. Mae cysylltiadau cryfion rhwng yr unedau, sy’n ein galluogi i ddefnyddio gwelyau yn hyblyg yn ystod cyfnodau prysur.

Mae Rhwydwaith Gofal Critigol Gogledd Cymru yn goruchwylio cydweithio rhwng yr unedau, yn cynnwys y gwaith o drosglwyddo cleifion critigol wael, llwybrau anafiadau pen a chynllunio digwyddiadau mawr, i enwi dim ond rhai.