Sylwer: mae pob clinig drwy apwyntiad yn unig
Mae gennym nifer gyfyngedig o apwyntiadau ar gael ar gyfer clinigau deintyddol brys yn ystod y dydd ac ar benwythnosau. Gwneir y rhain trwy apwyntiad yn unig. Peidiwch â mynychu unrhyw glinig deintyddol brys heb apwyntiad, gan na fyddwch yn cael eich gweld.
Os ydych chi wedi cofrestru gyda phractis deintyddol ar hyn o bryd, cysylltwch â nhw yn y lle cyntaf oherwydd efallai y byddan nhw'n gallu cynnig apwyntiad brys i chi.
Os bydd arnoch angen triniaeth ddeintyddol frys y tu allan i oriau agor arferol eich deintyddfa neu os nad oes gennych ddeintydd, cysylltwch â GIG 111 Cymru ar gyfer brysbennu a chyngor. Mae galw mawr am apwyntiadau penwythnos, felly lle bo hynny'n bosibl, ffoniwch yn ystod yr wythnos ac archebwch apwyntiadau yn ystod yr wythnos hefyd.
Problemau deintyddol brys yw’r rhai na all aros am ofal deintyddol arferol. Maen nhw’n cynnwys:
Mae cyflyrau deintyddol nad ydynt yn rhai brys yn cynnwys:
Dylai cleifion â chyflyrau nad ydynt yn rhai brys gael gofal arferol gyda'u deintydd eu hunain cyn pen saith diwrnod. Efallai y bydd rhai cyflyrau nad ydynt yn rhai brys yn gallu cael eu trin gennych chi eich hun. Efallai y bydd eich fferyllfa leol yn gallu helpu gyda meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer poen deintyddol. Ewch i'n tudalen hunanofal.
Dylech fynd i Adran Achosion Brys ysbyty (ED) os ydych angen gofal deintyddol brys. Byddwch angen gwneud hyn gyfer gofal deintyddol pan fo’ angen triniaeth arnoch o fewn cyfnod o amser penodol.
Mae argyfyngau deintyddol sydd angen gofal deintyddol brys yn cynnwys:
Cysylltwch â GIG 111 Cymru i gael cyngor pellach.
Rhoddir blaenoriaeth bob amser i blant, cleifion bregus neu oedrannus neu'r rheini â chanddynt chwydd difrifol yn eu hwynebau. Nid yw'r ddannodd, waeth pa mor boenus, yn cael ei hystyried yn argyfwng deintyddol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Deintyddol y GIG sy'n darparu'r ystod lawn o wasanaethau deintyddol o fewn gofal cychwynnol, gan gynnwys mynediad at driniaethau brys yn ystod oriau gwaith arferol.
Y tu allan i oriau arferol, dylai cleifion sydd ar hyn o bryd yn derbyn cwrs triniaeth trwy Feddyg Teulu Cyffredinol gysylltu â'u meddygfa eu hunain a gwrando ar y neges ffôn ateb i gael manylion trefniadau y tu allan i oriau. Efallai y bydd gofyn ichi gysylltu â GIG 111 Cymru.
Oni bai eich bod wedi'ch eithrio rhag talu am driniaethau deintyddol y GIG ac yn gallu darparu prawf, mae'n ofynnol ichi dalu ffi fach am eich triniaeth. Y dull talu sy’n cael ei ffafrio yw cerdyn debyd, er y derbynnir arian parod a sieciau hefyd.