Neidio i'r prif gynnwy

Cadwch stoc o feddyginiaethau'r gaeaf yn eich cwpwrdd

Bob gaeaf mae straeon am wardiau ysbytai ac adrannau brys sy'n llawn i orlawn oherwydd 'pwysau'r gaeaf' bondigrybwyll. Mae hyn yn tarfu ar waith yr ysbyty ac yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn hirach am driniaethau ac apwyntiadau, ac mae'n cynyddu'r pwysau sydd ar staff, yn arbennig ar yr adegau mwyaf prysur.

Mae modd trin llawer o afiechydon gartref drwy ddefnyddio meddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter, drwy yfed digonedd o ddiodydd a chael digon o orffwys.

Gofalu amdanoch eich hun ydy'r dewis gorau ar gyfer trin afiechydon ac anafiadau mân iawn.

Cofiwch ddarllen pob label ar y meddyginiaethau, a pheidiwch â chymryd dos mwy na'r un a nodir ar unrhyw feddyginiaeth. Er enghraifft, mae paracetamol mewn nifer o wahanol feddyginiaethau at y ffliw ac mewn tabledi paracetamol cyffredin. Ddylech chi ddim rhoi aspirin i blant o dan 16 mlwydd oed oni bai fod meddyg wedi dweud wrthych.

Cofiwch dweud wrth eich fferyllydd os ydych chi'n cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill neu os oes gennych chi gyflwr meddygol e.e. asthma, pwysedd gwaed uchel, er mwyn bod yn siŵr eich bod yn cael y feddyginiaeth fwyaf addas.

Yn aml y fferyllydd ydy'r pwynt cyswllt cyntaf i gleifion ofyn cwestiynau am iechyd. Gall unrhyw un weld fferyllydd am gyngor heb apwyntiad ac mae gan amryw o fferyllwyr ystafelloedd ymgynghori sy'n fwy preifat a chyfrinachol.

Mae'r rhan fwyaf o anwydau'n para am ryw bythefnos ac yn diweddu gyda peswch a phoer lliw. Ond os ydy'ch peswch yn para am fwy na thair wythnos, neu os ydych chi'n fyr o wynt neu'n cael poenau yn eich brest neu os oes gennych chi glefyd ar y frest, mae angen i chi weld eich meddyg. Dylech hefyd weld eich meddyg os ydych chi'n poeni am eich symptomau neu'ch cyflwr. Dylech bob amser ffonio 999 mewn achos brys sy'n bygwth bywyd pan fo rhywun yn ddifrifol wael neu wedi ei anafu'n ddrwg a'i fywyd mewn perygl.

Cadwch stoc o feddyginiaethau'r gaeaf yn eich cwpwrdd:

  • Lleddfu poen - paracetamol, ibuprofen ac aspirin ydy'r cyffuriau lleddfu poen mwyaf cyffredin ac maen nhw ar gael ar ffurf tabled neu hylif. Mae aspirin ac ibuprofen yn lleihau llid hefyd
  • Meddyginiaethau gwrth-histamin - mae'r rhain yn gwella alergeddau a thrwynau sy'n rhedeg ac maen nhw ar gael ar ffurf tabled neu hylif
  • Meddyginiaethau ar ddolur gwddf - meddyginiaethau cyffredinol sy'n cael eu hargymell e.e. paracetamol. Gall oedolion garglo gydag aspirin sy'n toddi. Gall fferins gwddf a chwistrellau hefyd leihau symptomau
  • Ffisig peswch - mae yna lawer iawn o fathau gwahanol ar gael. Bydd y rhain naill ai'n atal peswch neu'n ei lacio
  • Triniaethau dolur rhydd - gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o ddiodydd di-alcohol am y 24 awr gyntaf. Gall y fferyllydd argymell diodydd dadhydradu hefyd, sy'n cael eu hychwangeu at ddŵr
  • Meddyginiaethau camdreuliad - mae amryw o wahanol fathau ar gael. Bydd meddyginiaeth syml gwrth-asid yn lleddfu'r rhan fwyaf o symptomau
  • Triniaethau rhwymedd - gellir trio'r rhain e.e. Senna at rwymedd
  • Pecyn cymorth cyntaf - gall eich fferyllydd lleol eich cynghori ynghylch beth ddylai fod yn eich pecyn cymorth cyntaf, er enghraifft thermomedr, hufen antiseptig, rhwymynnau, gorchuddion a thâp gludiog, rhwymynnau sy'n cynnal a phlastrau
  • Meddyginiaethau plant - mae'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau hyn ar ffurf sy'n addas i blant, holwch eich fferyllydd.  Rydym yn argymell cael paracetamol ac ibuprofen ar gael ar ffurf hylif a hylif gwrth-histamin

Os byddwch chi'n teimlo'n sâl y gaeaf hwn, mae gennym nifer o opsiynau a gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru i'ch helpu i gael y cyngor a'r / neu'r driniaeth briodol.