Gall pobl sy'n wynebu'r perygl mwyaf o gael salwch difrifol yn sgil y ffliw alw heibio i gael y brechlyn GIG rhag y ffliw heb apwyntiad
Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid rhag y ffliw yw cael brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, lleihau difrifoldeb y symptomau os byddwch chi yn ei ddal, a helpu atal rhag ei drosglwyddo i bobl sy'n agored i niwed.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.
Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd y grwpiau canlynol yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu rhag ffliw y gaeaf hwn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut i gael y brechlyn. Cliciwch ar y pennawd i ddysgu mwy am sut y gall aelodau o bob grŵp gael eu brechiad yma yng Ngogledd Cymru.