Cynigir y brechlyn ffliw tymhorol bob blwyddyn rhwng mis Medi a mis Mawrth. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru ym mis Awst 2024 cyn ymgyrch eleni, a fydd yn dechrau yn yr Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am raglenni brechu eraill, cliciwch yma.
Mae'r ffliw yn salwch anadlol difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Gall arwain at gyflyrau difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth ysbyty. Gall y ffliw arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i lawer o’r bobl fwyaf agored i niwed.
Y ffordd orau i'ch amddiffyn rhag y ffliw yw cael brechlyn ffliw yn flynyddol. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, a gall leihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn cael y ffliw.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach.