Helpwch i gadw eich plentyn yn iach y gaeaf hwn – gwnewch yn siŵr ei fod yn derbyn y brechlyn
Gofynnwn i chi gymryd yr amser i ddarllen y wybodaeth isod ac i lenwi'r ffurflen gydsynio fel na fydd eich plentyn neu'ch plant yn colli allan ar roi hwb i'w hamddiffyniad rhag y ffliw.
Fel arall, gallwch lawrlwytho, argraffu, cwblhau a dychwelyd copi papur o’r ffurflen gydsynio at ysgol eich plentyn neu'ch tîm imiwneiddio ysgolion lleol.
Gall y ffliw fod yn salwch difrifol ac annymunol ymhlith plant. Bydd y brechiad trwy chwistrell trwyn, di-boen, yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y risg o ddal haint ffliw difrifol, ac yn lleihau’r siawns y bydd y bobl sy’n agored i niwed yn eich cymuned, gan gynnwys perthnasau hŷn, yn dal y feirws.
Bydd ein timau imiwneiddio mewn ysgolion yn ymweld ȃ phob ysgol ar draws Gogledd Cymru yn cynnig brechiad y ffliw trwy gydol tymor yr Hydref. Caiff brechiadau rhag y ffliw mewn ysgolion eu rhoi i bob plentyn o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 (wedi eu geni rhwng 1 Medi 2010 ac 31 Awst 2022).
Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i rieni am ddyddiad y clinig brechiad rhag y ffliw ac yn rhannu ffurflenni cydsyniad. Dylai rhieni gofio am gwblhau'r ffurflen gydsynio cyn diwrnod brechiad eu plentyn. Caiff sesiynau dal i fyny eu cynnal i blant nad oeddent yn gallu mynychu'r ysgol ar ddiwrnod cynnal y clinig brechu rhag y ffliw.
Bydd tîm imiwneiddio ysgolion lleol yn cysylltu â rhieni plant sy'n cael eu haddysgu gartref i gynnig y brechiad rhag y ffliw a gwneud trefniadau ar gyfer hynny.
Bydd plant sy’n ddwy neu’n dair oed (wedi’u geni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2024) yn cael eu gwahodd am frechiad rhag y ffliw trwy chwistrell trwyn ym meddygfa eu Meddyg Teulu, a hynny am ddim – cadwch lygad am wahoddiad i wneud apwyntiad i gryfhau eu hamddiffyniad yn erbyn y feirws. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn ȃ chymhwysedd i dderbyn y brechiad rhag y ffliw.
Argymhellir brechlyn ffliw sy'n gyflym a di-boen ar ffurf chwistrell drwynol ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. Hwn yw'r brechlyn a gaiff ei gynnig fel mater o drefn yn ein clinigau ysgol.
Mae nifer fach iawn o blant nad ydynt yn gallu derbyn y brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell drwynol neu sy'n dewis peidio â gwneud hynny gan ei fod yn cynnwys gelatin porc. Os ydych yn awyddus i'ch plentyn dderbyn pigiad heb gelatin yn hytrach na'r chwistrell drwynol, gallwch nodi hyn ar y ffurflen gydsynio.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau'r ffliw, eu cynhwysion a'u heffeithiolwydd, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dysgwch ragor am y brechiad rhag y ffliw yn yr animeiddiadau hyn ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd, a ddatblygwyd gan ein cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod ein rhaglen frechu rhag y ffliw yn yr ysgol, cysylltwch â’r tîm imiwneiddio ysgolion lleol ar y rhif isod neu siaradwch â'ch nyrs ysgol.
☎️ 03000 858 599 neu 📧 BCU.ImmunisationTeamEast@wales.nhs.uk
☎️ 03000 856 817 neu 📧 BCU.ImmunisationTeamCentral@wales.nhs.uk
☎️ 03000 843 062 neu 📧 BCU.SNImmsMon@wales.nhs.uk ar gyfer Ynys Môn
☎️ 03000 851 610 neu 📧 BCU.SNImmsArfon@wales.nhs.uk ar gyfer Arfon
☎️ 03000 843 147 neu 📧 BCU.SNImmsMeiDwy@wales.nhs.uk ar gyfer Dwyfor
☎️ 03000 853 471 neu 📧 BCU.SNImmsMeiDwy@wales.nhs.uk ar gyfer Meirionnydd