Neidio i'r prif gynnwy

Gorbryder yn y cyfnod Amenedigol

Gorbryder yw’r teimlad o anesmwythder, gofid neu ofn a all fod yn ysgafn neu’n ddifrifol. Mae pawb yn teimlo’n bryderus weithiau, ond mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd rheoli eu pryderon. Mae rhai pobl â gorbryder hefyd yn cael pyliau o banig, a all fod yn frawychus iawn. Mae gorbryder mewn beichiogrwydd yn gyffredin iawn. 

Arwyddion o orbryder

Mae arwyddion nodweddiadol o orbryder yn cynnwys:

  • Pryder parhaus, cyffredinol, yn aml yn canolbwyntio ar ofnau am iechyd neu les eich babi
  • Ymdeimlad o ofn
  • Teimlo’n aflonydd neu’n flin
  • Ymddygiadau osgoi, gwirio i dawelu’r meddwl
  • Gall rhai pobl brofi pyliau o banig (y galon yn rasio, crychguriadau’r galon, byr o anadl, ysgwyd neu deimlo’n gorfforol ‘ar wahân’ i’ch amgylchedd)

Dywedwch wrth eich bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg sut rydych yn teimlo. Cofiwch na fydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich beirniadu chi. Fe fyddant yn canolbwyntio ar eich helpu i ganfod y driniaeth a’r cymorth cywir.

Triniaeth ar gyfer gorbryder