Gall beichiogrwydd fod yn brofiad emosiynol iawn ac fe all weithiau fod yn anodd gwybod a yw eich teimnladau’n rhai arferol neu’n arwydd o rywbeth mwy difrifol. Mae’n bwysig ymddiried ynoch eich hun. Chi yw’r beirniad gorau a yw eich teimladau yn arferol i chi. Mae’n naturiol cael cyfnodau o deimlo’n bryderus neu’n isel pan rydych yn feichiog neu wedi genedigaeth, ac fel arfer mae’r teimladau hyn yn datrys eu hunain. Fodd bynnag, mae’n bwysig gofyn am gymorth os ydych yn teimlo’n isel neu’n bryderus drwy’r amser, neu eich bod yn teimlo na allwch ymdopi.
Mae anawsterau iechyd meddwl, megis hwyliau isel, gorbryder ac iselder yn ystod beichiogrwydd yn gyffredin. Dengys ymchwil fod merched yn dilyn genedigaeth mewn perygl sylweddol uwch o ddatblygu anawsterau meddyliol. Mae hyd at 20% o ferched yn datblygu anhawster iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu o fewn blwyddyn o roi genedigaeth.
Ni chewch eich beriniadu am sut rydych yn teimlo. Mae eich tîm gofal beichiogrwydd, yn cynnwys eich Meddyg Teulu, bydwraig ac ymwelydd iechyd yn deall bod cyflyrau iechyd meddwl yn gallu effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Fe fyddant yn eich helpu chi in gadw’n iach fel y gallwch edrych ar eich ôl eich hun a’ch babi.
Fe allant drafod gyda chi sut i gael mynediad at gymorth mewn perthynas â:
Gellir cyflawni hyn drwy fynediad at:
Os oes gennych hanes cyfredol neu flaenorol o iechyd meddwl difrifol, dywedwch wrth eich Meddyg Teulu neu fydwraig unwaith i chi ganfod eich bod yn feichiog fel y gallant gynnig y lefel gywir o gymorth.
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eich iechyd meddwl ac yn beichiogi, mae’n ddoeth peidio rhoi’r gorau i’w gymryd yn sydyn. Ceisiwch arweiniad gan eich Meddyg Teulu neu ymarferydd iechyd meddwl, a fydd yn trafod manteision Meddyginiaethau yn ystod beichiogrwydd ac unrhyw beryglon posibl gyda chi er mwyn i chi wneud dewis gwybodus ynglŷn â’ch gofal.
Gweler ein hwb iechyd meddwl amenedigol am fwy o wybodaeth.