Neidio i'r prif gynnwy

Ynys Môn

Caergybi

Cyngor ar Bopeth Ynys Môn
44 Stryd y Farchnad
Caergybi
LL65 1UN

Gwasanaethau a gynigiwn

Ydych chi'n teimlo'n unig, yn isel, neu dan straen oherwydd pwysau bywyd? Siaradwch am eich problemau gyda ni.

Byddwn yn gwrando heb farnu ac yn eich helpu i gael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Gallwch gael cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion a allai fod yn peri gofid i chi, gan gynnwys:

  • iechyd meddwl
  • unigrwydd
  • galar
  • cam-drin
  • dyled
  • tor-perthynas
  • defnyddio alcohol neu gyffuriau
  • gamblo
  • cyflogaeth
  • cartrefu
  • a mwy

Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn weithiau, felly os ydych chi’n cael trafferth, am ba bynnag reswm, dewch i siarad â ni. Rydyn ni yma i helpu. Gyda'n gilydd gall ein tîm cyfeillgar a phrofiadol eich helpu i ddod yn ôl ar y trywydd iawn.

Mae ein tîm Fedra’i yn cynnig:

  • Cefnogaeth iechyd meddwl, emosiynol a gwrando 1 i 1 naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn galwad fideo, e-bost, llythyr, neges destun, neu negeseuon Whatsapp
  • Cymorth i gael mynediad at hunangymorth iechyd meddwl a lles, a chymorth arbenigol
  • Cymorth i gael mynediad at grwpiau cymorth cymheiriaid a gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
  • Gweithdai grŵp hunangymorth yn ymwneud â phynciau megis:
    • Ffyrdd at Les
    • Pryder a Phanig
    • Hwyliau Isel
    • Hylendid Cwsg
    • Rheoli Straen
    • Hunan-barch
    • Ynysu ac unigrwydd
    • Cyflwyniad i Feddwlgarwch
  • Hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac iechyd meddwl
  • Cynlluniau diogelwch ar hunanladdiad
  • Cyngor rheoledig gan AQS a'r FCA

Mae ein gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyffredinol a chymorth arbenigol ar achosion yn ymwneud â dyled, budd-daliadau lles, cyfraith teulu, cyflogaeth, gofal cymunedol, ynni, cyllidebu, tai, gwahaniaethu a mwy. Gallwch dderbyn cymorth gennym trwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys gwe-sgyrsiau, galwadau ffôn neu fideo, a hefyd wyneb yn wyneb.

Manylion Cyswllt ac oriau agor

Sesiwn galw-heibio Fedra’i wyneb yn wyneb: Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-4pm

Sesiynau Fedra’i wyneb yn wyneb drwy apwyntiad: Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-4pm

Galwad fideo ar-lein, sesiwn galw-heibio Fedra’i: https://attenduk.vc/ican Dydd Llun a dydd Mercher, 2pm-4pm

Galwad fideo ar-lein, sesiwn galw-heibio Cyngor ar Bopeth: https://attenduk.vc/area-1 Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-4pm

Ffôn: 01407 769300, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-4pm

Ebost: icanmon@ynysmoncab.org.uk

Gwefan: Citizens Advice Ynys Mon

Facebook: https://www.facebook.com/p/Canolfan-Cynghori-Ynys-Mon-100072297926883/?locale=en_GB

 


Llangefni

CAB

4-10 Ffordd Yr Efail,

Llangefni

LL77 7PN

Gwasanaethau a ddarperir

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaethau dros y ffôn, testun / e-bost a llwyfan digidol wyneb yn wyneb. Cyngor 1: 1, gwaith achos cyffredinol ac arbenigol, dyled, budd-daliadau lles, cyfraith teulu, cyflogaeth, gofal cymunedol, ynni, tai trwy ystod o lwyfannau gan gynnwys gwe-sgwrs, ffôn ac Attend Anywhere

Rhif Ffôn Cyswllt

01407 762278

Diwrnodau/oriau agor

Llun - Gwener 9yb - 5yh. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig gwasanaethau dros y ffôn, testun / e-bost a llwyfan digidol wyneb yn wyneb.

Gwefan

Cyngor ar Bopeth Ynys Môn