Y tro nesaf y byddwch yn mynd at eich meddyg teulu gyda phryder iechyd meddwl, mae'n bosibl y cewch gynnig apwyntiad gyda Therapydd Galwedigaethol Fedra’i ym maes Gofal Sylfaenol.
Mae Fedra'i ym maes Gofal Sylfaenol yn dîm o Therapyddion Galwedigaethol profiadol sydd wedi'u lleoli mewn meddygfeydd ar draws Gogledd Cymru. Os ydych yn cael anhawster gyda'ch iechyd meddwl, mae'r Therapyddion Galwedigaethol wrth law i gael sgwrs agored gyda chi ynghylch yr hyn sydd orau i'ch helpu chi. Boed hynny'n cynnwys cael cyswllt ag adnoddau cymunedol neu dysgu ychydig o sgiliau hunanreoli. Mae Therapyddion Galwedigaethol wedi'u hyfforddi i weithio gyda phobl i reoli cyflyrau corfforol ac iechyd meddwl a gallant drafod y pethau sy'n digwydd ym mywydau pobl a allai effeithio ar sut rydym ni'n teimlo, gan gynnwys pethau fel straen gwaith, colli rhywun neu brofiadau neu heriau eraill mewn bywyd
Mae'r Therapyddion Galwedigaethol hefyd yn gweithio gyda'ch meddyg teulu i roi cymorth gyda meddyginiaeth a nodiadau ffitrwydd a gallant eich cyfeirio at wasanaethau eraill, yn ôl yr angen.