Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gofalu am eich iechyd a lles meddyliol

Yn ein bywyd bob dydd, mae gofalu am ein hiechyd a lles meddyliol yr un mor bwysig â gofalu am ein hiechyd corfforol. Er mwyn i’n hiechyd a lles meddyliol ffynnu, mae angen i ni gael y ffactorau gwarchodol canlynol yn eu lle:

  • Ein bod yn teimlo bod gennym reolaeth dros ein bywyd
  • Ein bod yn teimlo’n rhan o bethau a bod modd i ni gyfrannu
  • Ein bod yn gydnerth ac yn gallu cael gafael ar adnoddau ymdopi pan fydd eu hangen arnom ni

Mae’r mesurau sydd ar waith i gadw COVID-19 dan reolaeth wedi golygu bod ein bywydau dydd i ddydd arferol wedi troi popeth â’i ben i waered dros nos fwy neu lai, gan gynnwys ein bywyd cymdeithasol, teuluol ac addysgol, a’n trefn a’n rhwydweithiau gwaith. Mae’r mesurau yn effeithio ar y pethau sy’n gwarchod ein hiechyd a lles meddyliol hefyd. Felly, mae angen i ni fod yn ymwybodol o beth mae modd i ni ei wneud yn wahanol i ofalu amdanom ni ein hunain, ein teuluoedd a’n cymunedau, a gwybod sut mae cael gafael ar gymorth pellach os oes angen. Tarwch olwg ar yr adnoddau defnyddiol sy’n cael eu disgrifio isod.

5 Ffordd at Les

5 Ffordd at Les hwn yn amlinellu pum peth mae modd i ni eu cynnwys yn ein bywyd bob dydd i wella ein lles meddyliol. Edrych ar gyflwyniad 5 Ffordd at Les.

Bod yn Greadigol

Mae llawer o enghreifftiau gwych ar-lein ac yn y newyddion o sut mae pobl yn defnyddio eu hamser gartref i fod yn greadigol. Un enghraifft yw’r prosiect ‘Let’s Make It Together’ dan arweiniad Rheolwr Rhaglen Celf mewn Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Instagram, Twitter, Facebook). Mae’n cynnwys creu baneri ar unrhyw ffurf, er enghraifft drwy weu, crosio, gwehyddu, paentio, gwneud collage, gwnïo, pwytho, ailgylchu, a chasglu. Gall pobl greu hanesion, cofnodi darnau o ddyddiaduron, ysgrifennu llythyrau neu negeseuon at anwyliaid, dangos gwaith cartref, gwneud hunanbortreadau, a nodi dyddiadau pwysig.

I gael mwy o wybodaeth ac awgrymiadau, cyngor a syniadau i’ch helpu chi i ofalu amdanoch chi eich hun a phobl eraill, ewch i dudalennau Sut wyt ti’n teimlo? Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os yw pethau’n mynd yn rhy anodd

Efallai eich bod yn teimlo bod pethau’n mynd yn drech na chi, a’ch bod yn poeni am eich iechyd meddwl chi neu am iechyd meddwl aelod o’r teulu. Mae dolenni isod i wasanaethau allanol sy’n gallu darparu cyngor a chymorth.

Linell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru neu 0800 132 737
Mind Cymru neu 0300 123 3393