Neidio i'r prif gynnwy

COVID-19 a'ch lles meddyliol

Ar adeg pan ddywedir wrth bobl am gyfyngu eu rhyngweithiad cymdeithasol gymaint â phosibl ac mewn nifer o achosion, i hunan-ynysu oherwydd achosion COVID-19, mae'n hanfodol bwysig i chi amddiffyn eich lles meddyliol. Efallai y byddwch yn gweld bod eich teimladau a'ch hwyliau yn cael eu heffeithio yn ystod yr amser hwn ac efallai y byddwch chi'n teimlo'n bryderus neu'n cael trafferth cysgu. Ar adegau fel hyn, gall fod yn hawdd i chi syrthio i mewn i batrymau ymddygiad nad ydynt yn iach, a all yn ei dro, wneud i chi deimlo'n waeth.

Mae'r “Pum ffordd at Les” yn gyfres o negeseuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi anelu at wella iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan. Fe'u datblygwyd gan Sefydliad Economeg Newydd o dystiolaeth a gasglwyd o’r prosiect 'Foresight Mental Capital and Wellbeing' (2008).

Mae'r rhain wedi cael eu haddasu ar gyfer y sefyllfa rydym ynddi o ran y COVID-19.

Bod yn Sylwgar

Byddwch yn chwilfrydig. Sylwch ar rywbeth gwahanol neu brydferth. Gwnewch sylw ar yr anghyffredin. Sylwch ar y tymhorau’n newid. Byddwch yn ymwybodol o’r byd o’ch cwmpas a’r hyn yr ydych chi’n ei deimlo. Meddyliwch am eich profiadau gan werthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi.

Agorwch eich ffenestri, i adael ychydig o awyr iach i mewn, sicrhewch eich bod yn cael ychydig o olau haul naturiol os gallwch chi, neu ewch allan i'r ardd.

Treuliwch amser yn gwneud pethau rydych yn eu mwynhau - gall hyn gynnwys coginio, darllen, diddordebau eraill dan do, gwylio'r teledu neu wrando ar y radio.

Gofalwch am eich hun drwy fwyta prydau bwyd iach a chytbwys, yfwch digon o ddŵr ac osgowch ysmygu, alcohol a chyffuriau. Mae Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar gael ar 0808 808 2234 os oes arnoch angen help.

Cysylltu

Beth am gysylltu, meithrin, ehangu a chryfhau o ran perthnasau a rhwydweithiau cymdeithasol.

Manteisiwch ar gefnogaeth sydd gennych o bosibl drwy eich ffrindiau, teulu a rhwydweithiau eraill.

Wrth i ni bellhau'n gymdeithasol oddi wrth ein gilydd, ceisiwch gadw mewn cysylltiad gyda'r rhai o'ch cwmpas dros y ffôn, post neu ar-lein.

Rhowch wybod i bobl sut yr ydych yn dymuno cadw mewn cysylltiad a gwnewch hynny fel mater o drefn.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â nhw am sut rydych yn teimlo. Cofiwch fod hi'n IAWN i rannu eich pryderon gydag eraill rydych yn gallu ymddiried ynddynt ac wrth wneud hynny efallai y byddwch hefyd yn eu cefnogi nhw. Neu, fel arall, fe allwch ffonio Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru ar 0800 132 737 .

Bod yn Actif

Mae tystiolaeth yn dangos bod ymarfer corff yn newid cemeg eich ymennydd ac yn rhyddhau hormonau hapus sydd yn eu tro yn gwneud i chi deimlo'n fwy cadarnhaol.

Darganfyddwch weithgaredd corfforol rydych chi’n ei fwynhau ac un sy'n gweddu i'ch lefel symudedd a ffitrwydd.

Caniateir i chi fynd am dro neu ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd os arhoswch fwy na dau fetr oddi wrth eraill. Hyd yn oed os nad ydych yn teimlo fel gwneud, ceisiwch ymgorffori hyn yn eich trefn bob dydd.

Nod "Beth am Symud Gogledd Cymru" yw cefnogi pawb yng Ngogledd Cymru i symud mwy, ac wrth wneud hynny, cefnogi eu lles corfforol a meddyliol. Ewch ar facebook.com/BethAmSymudLetsGetMoving am syniadau ar ba weithgaredd corfforol y gallwch ei wneud o fewn cyfyngiadau achosion COVID-19.

Dal ati i Ddysgu

Pennwch nod. Trïwch rywbeth newydd. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Gall dysgu gynnwys unrhyw bynciau, nid yn unig cyrsiau strwythuredig addysgol.

Cofrestrwch ar gyfer cwrs ar-lein. Gall dysgu fod yn gymdeithasol; efallai byddwch yn gwneud ffrindiau newydd yn ogystal â sgiliau newydd. Sicrhewch eich bod yn cadw'n ddiogel ar-lein.

Dysgwch sut i chwarae offeryn neu sut i goginio’ch hoff fwyd. Ydych chi erioed wedi meddwl yr hoffech chi ysgrifennu, dysgu iaith, ail ddechrau gwneud rhywbeth roeddech chi'n arfer ei fwynhau, neu dreulio amser yn rhoi cynnig ar grefft newydd? Rŵan yw eich amser!

Rhoi

Gall helpu eraill fod yn werth chweil iawn ac mae'n creu cysylltiadau â phobl eraill.

Gallwch wirfoddoli i gefnogi eich awdurdod lleol neu elusen leol sy'n ymateb i'r argyfwng COVID-19.

Beth am gysylltu â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ble gallwch ddod o hyd i gyfleoedd yn agos at ble rydych chi byw?

Tîm Iechyd Cyhoeddus BIPBC, 26 Mawrth 2020