Neidio i'r prif gynnwy

Delwedd bositif o'r corff

Weithiau, rydyn ni'n poeni am sut rydyn ni'n edrych neu beth mae ein ffrindiau'n ei feddwl am ein corff. Dyma gyngor defnyddiol i'ch helpu i adeiladu delwedd bositif o'ch corff.

Beth yw delwedd corff?  

Delwedd corff yw'r ffordd rydyn ni'n meddwl ac yn teimlo amdanom ein hunain yn gorfforol a sut rydyn ni'n credu bod pobl eraill yn ein gweld. 

Dyma rai enghreifftiau o anawsterau delwedd corff: 

  • Cymharu'r ffordd rydych chi'n edrych â'ch ffrindiau neu'r rhai rydych chi'n eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. 
  • Cael trafferth derbyn eich corff. 
  • Teimlo'n hunanymwybodol am fannau geni, creithiau, acne neu farciau eraill ar eich corff. 

Awgrymiadau defnyddiol i adeiladu positifrwydd corff

Mae positifrwydd corff yn golygu bod pob corff yn cael ei dderbyn, waeth beth fo'r math, siâp neu faint. Trwy feddwl yn bositif am sut rydych chi'n edrych, bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus. 

Efallai y bydd yn cymryd amser i newid y ffordd rydyn ni'n teimlo am ein cyrff. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i helpu i newid eich meddylfryd: 

  • Canolbwyntiwch ar ofalu am eich iechyd yn fwy na'r ffordd yr ydych chi'n edrych. 
  • Y ffordd orau o wella’ch hunan-barch yw trin eich hun fel y byddech chi’n trin ffrind gwerthfawr, mewn ffordd bositif ond gonest. 
  • Canolbwyntiwch ar wneud pethau rydych chi'n eu mwynhau, gan fod hyn yn dda i'ch lles emosiynol. Dysgwch fwy o wybodaeth am y pum peth syml y gallwn ei wneud i roi hwb i'n lles. 
  • Peidio â chategoreiddio bwyd fel rhai 'da' neu 'ddrwg'.
  • Bwytewch ddiet cytbwys a gwnewch rywfaint o ymarfer corff iach.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol