Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n iach yn eich arddegau

Mae eich arddegau yn gyfnod pwysig dros ben ar gyfer twf a datblygiad, ac felly mae bwyta deiet iach ac amrywiol yn holl bwysig er mwyn derbyn yr egni a’r maeth sydd angen arnoch i ganolbwyntio'n dda yn yr ysgol a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau.

Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn dangos pa fath a faint o fwyd sydd angen ei fwyta er mwyn cael deiet cytbwys ac iach. Gwyliwch y fideo byr yma ar y Canllaw Bwyta’n Dda am awgrymiadau a chyngor defnyddiol.

Dylai deiet iach a chytbwys gynnwys:

  • O leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd
  • Prydau sy'n cynnwys bwydydd â starts, fel tatws, bara, pasta a reis – dewiswch opsiynau grawn cyflawn os yn bosibl
  • Llaeth a chynnyrch llaeth neu ddewisiadau amgen – dewiswch laeth sgim neu hanner sgim os yn bosibl.
  • Bwydydd sy'n cynnwys protein – fel cig, pysgod, wyau, ffa a chorbys

Peidiwch ag osgoi brecwast

Mae dechrau'r diwrnod gyda phryd o fwyd maethlon yn bwysig oherwydd mae'n rhoi tanwydd yn ein corff ar gyfer y dydd a'n rhoi fitaminau, mwynau a ffibr pwysig i ni.

Dyma ambell awgrym am frecwast cyflym a maethlon:

  • Tost bara grawn cyflawn gyda sbred, gwydraid o sudd oren ac iogwrt. Beth am roi cynnig ar iogwrt plaen / heb ei felysu a rhoi ychydig o ffrwythau ar ei ben?
  • Powlen o rawnfwyd (gweler y cyngor) gyda llaeth sgim neu hanner sgim ac ychydig ffrwythau;
  • Uwd gyda banana a llond llaw o lus neu ffrwythau sych

Mae fitaminau a mwynau wedi’u hychwanegu i nifer o rawnfwydydd brecwast. Gall grawnfwyd fod yn opsiwn cyflym, hawdd a maethlon i frecwast.

Byrbrydau iach

Dylech geisio osgoi bwydydd fel creision, melysion, cacennau, bisgedi, neu ddiodydd pefriog llawn siwgr. Does fawr o faeth fydd yn helpu ein cyrff i gadw'n iach ac yn heini yn y rhain, a gallant hefyd gael effaith negyddol ar iechyd y geg.

Ffrwythau a llysiau ffres yw'r dewis gorau bob tro - maent yn cynnwys fitaminau a mwynau, yn ffynhonnell dda o ffibr ac yn rhan o’n '5 y dydd'. Hefyd, maen nhw'n hawdd i'w bwyta lle bynnag y byddwch chi!

Dyma ambell awgrym ar gyfer byrbrydau iachach:

  • Os ydych chi'n llwglyd ar ôl ysgol, yn hytrach na dewis bisgedi, melysion, siocled neu gacennau cartref, dewiswch opsiynau iachach fel ffrwythau a llysiau wedi'u torri'n fân, cacennau reis plaen gyda chaws meddal, tost gyda sbred braster is neu gacen de ffrwythau.
  • Dewiswch ffrwythau neu lysiau wedi'u torri'n fân sy’n barod i'w bwyta, fel afal, moron, ciwcymbr, seleri, pupur, mefus, grawnwin, pîn-afal tun neu felon wedi'u paratoi ymlaen llaw fel byrbryd cyflym.
  • Gall yfed diod gyda byrbryd orlwytho’r siwgr fyddwch yn ei gymryd. Felly, yn hytrach na dewis diodydd siwgraidd a phefriog dewiswch ddiodydd heb siwgr ychwanegol, llaeth sgim neu hanner sgim neu ddŵr.

Pwysau Iach

Er mwyn helpu i gynnal pwysau iach:

  • Mwynhewch ddeiet iach ac amrywiol
  • Peidiwch â bwyta gormod o fwydydd, diodydd a byrbrydau sy'n llawn braster a siwgr
  • Byddwch yn actif am o leiaf 60 munud y dydd

Delwedd corff cadarnhaol

Mae bwyta'n dda yn golygu cael agwedd iach at y ffordd rydych chi'n meddwl am fwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gael delwedd bositif o’r corff.

Haearn, adeiladu esgyrn a gwybodaeth fwy manwl

I gael fersiwn mwy manwl o'r wybodaeth hon, gan gynnwys cyngor ar haearn, adeiladu esgyrn a mwy, cliciwch ar hwn:

Gwybodaeth bellach ac adnoddau